Yn dilyn ein diweddariad ar 17 Ionawr, rwy’n cysylltu i roi gwybod i chi am y digwyddiadau plannu i wirfoddolwyr y byddwn yn eu cynnal ddiwedd mis Mawrth yng Nghoedwig Abermalais.
Bydd y digwyddiadau plannu yn gyfle i drigolion lleol ddod i blannu coeden a helpu i greu coetir newydd er cof am anwyliaid a gollwyd yn anffodus oherwydd Covid-19 ac adeiladu gofod cadwraeth gwerthfawr i’r gymuned.
Bydd pedair sesiwn blannu i gyd, y bydd Tir Coed yn eu cynnal ar ein rhan.
Bydd y sesiynau ar 18 a 25 Mawrth ar agor i’r cyhoedd. Mae manylion am sut i gofrestru ynghlwm.
Mae’r sesiynau ar 22 a 23 Mawrth yn cael eu trefnu gydag ysgolion lleol a grwpiau addysgol.
Hoffem estyn gwahoddiad i chi ymuno â ni ar 23 Mawrth am tua 10.30 am, i blannu coeden yn y coetir newydd.
Bydd hwn yn ddigwyddiad anffurfiol lle bydd tîm CNC a rhanddeiliaid allweddol yn ymgasglu er mwyn cael cyfle i fod yn rhan o’r gwaith o greu’r coetir newydd. Rhowch wybod i mi os hoffech ymuno â ni a bydd gennym raw yn barod ar eich cyfer