Category Archives: Llansadwrn Community Garden / Garf Cymunedol Llansadwrn

Cinio Mawr 3!

Llansadwrn Big Lunch 2017

Out enjoying the sunshine at Llansadwrn Big Lunch 2018Cyfle arall i gymuned Llansadwrn rannu bwyd blasus a chwmni da CINIO MAWR LLANSADWRN 2019 Dydd Sadwrn 13eg Gorffennaf o 12.00 y.p. Cau Cymuned Llansadwrn

Croeso i bawb

Yr unig beth sydd eisiau i chi ei wneud yw dod ar y dydd gyda bwyd i’w rannu. Os medrwch ein cynorthwyo mewn unrhyw fodd, gwerthfawrogwn hynny’n fawr.
Rhowch wybod os gellwch helpu gyda:

  • Arddurno’r babell;
  • Gosod popeth i fyny / symud byrddau a chadeiriau;
  • Arddurno bord;
  • Parcio;
  • Trefnu neu helpu gyda gweithgareddau ar y dydd;
  • Cyfrannu i’r adloniant amser cinio;
  • Tacluso pob dim ar ddiwedd y dydd.

RHAGLEN:
12.00y.p. Dewch â bwyd i’w rannu (a blodau am y ford os wyt ti’n gallu).
12.30y.p. Cinio & adloniant cerddorol – yn cynnwys Band Tref Llandeilo Band, Harmoni Tywi a cherddorion a pherfformwyr lleol.
3.00y.p. Mabolgampau a gweithgareddau i blant
4.00y.p. Helfa Drysor
5.30y.p. Tynnu Rhaf
8y.p. SINEMA SADWRN yn cyflwyno ‘The Jungle Book’ PG yn y babell. Mynediad AM DDIM hefyd BWYD STRYD i brynu & RAFFL yn y nos (i’w dynnu yn dilyn y ffilm)

A wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen i Trish Evans, Bellview, Llansadwrn, SA19 8LF neu anfon ebost at:
trish-evans@hotmail.co.uk erbyn Dydd Sadwrn 29ain Mehefin os hoffech ddod/yn gallu helpu.
DIOLCH!

    Any information shared here will only be used for the Big Lunch organisation

    Gardd Gymunedol Llansadwrn Community Garden – Chwefror 2019

    llansadwrn-gardeners-Feb-2019-planting
    llansadwrn-gardeners-Feb-2019-planting

    First planting

    Digwyddodd y gwaith cyntaf yn Ardd Gymunedol Llansadwrn ar ddydd Sadwrn 2ail Chwefror.

    Heriodd grŵp o wirfoddolwyr dewr dymheredd yn i agos i sero er mwyn torri drwy’r rhew a phlannu’r coed afalau cyntaf a chasgliad o eirlysiau a chlychau’r gog.

    Y ddwy goeden blannon ni oedd ‘Pig yr Wydd’ – amrywiad lleol Llanwrda sy’n gwneud yn dda, a ‘Sunset’ sy’n gyltifar afal ddaeth fel eginblanhigyn o ‘Cox’s Orange Pippin.’

    Digwydd ein sesiwn plannu nesaf ar ddydd Sadwrn 16eg Chwefror gan gychwyn o’r Ddarllenfa am 10.30am.

    Os hoffech ymuno â ni, bydd croeso cynnes iawn, hyd yn oed dim ond i chi edrych.

    Diolch i Goed Ddolau Hirion a chanolfan arddio ‘The Works’ am eu cefnogaeth.

    Planting-snowdrops-in-the-cold

    Planting snowdrops in the cold

    Newyddion Gardd

    Afal Tin-yr-Wydd

    Afal Tin-yr-Wydd

    Ers yr ymgynhoriad cymunedol ym mis Tachwedd bu’r gwirfoddolwyr sydd â’r cyfrifoldeb am sefydlu Gardd Gymunedol Llansadwrn wrthi’n ddyfal gan baratoi’r cyfansoddiad a’r polisïau, agor cyfrif banc, a threfnu yswiriant.

    Yn ychwanegol, mae’r Ardd Gymunedol wedi derbyn rhodd hael oddi wrth Y Parchedig Vanessa Hope-Bell er cof am ei mab Joel, preswylydd Llansadwrn.

    Fel canlyniad ar fore dydd Sadwrn Chwefror 2ail am 10.30am bydd y weithred wirioneddol gyntaf yn digwydd. Plennir dau fath o afalau, gan gynnwys ‘Tin yr Wydd’ – afal pobi cynnar o Langadog. Hefyd plennir bylbiau brodorol. Mae croeso cynnes iawn i bawb cymryd rhan, naill ai helpu neu ddod i edrych a sgwrsio yn unig.

    Mae’r Ardd i bawb, felly peidiwch bod yn swil!