Hanes Llansadwrn
Mae Llansadwrn yn blwyf hen iawn, gydag eglwys ganoloesol yn dyddio’n rhannol o’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae cyfeiriadau at Lansadwrn yn mynd yn ôl i 1324. (gw. isod), a hyd yn oed i gyfnod y Rhufeinwyr a chyn hynny!
Pigion o’r Gorffennol
Roedd W. Llewellyn Williams [1868-1922] yn enedigol o Lansadwrn. Cafodd ei addysg yn Llanymddyfri a Choleg Brasenose, Rhydychen. Daeth yn fargyfreithiwr ond rhannodd ei amser rhwng y gyfraith a newyddiaduraeth. Roedd yn aelod gweithgar o Orsedd y Beirdd ac un o’i lyfrau enwocaf yw The Making of Modern Wales a ysgrifennodd yn 1919.
Yn 1807 pasiwyd y Ddeddf Cau Tiroedd a effeithiodd ar Sir Gaerfyrddin. Effeithiodd hyn yn sylweddol ar y tlodion a thyddynwyr a’r rheiny a’r hawl i ddefnyddio tiroedd comin. Yn sgil y ddeddf, rhoiodd llawer y gorau i’w tyddynnod ac aethant i fyw yn y trefi a’r cymoedd diwydiannol. Weithiau, fel yn achos Llansadwrn, cafodd darn bach o dir ei gadw ar gyfer perchnogion a’u tenantiaid.
Olion Rhufeinig
Meddyliwyd bod ffordd yn cysylltu’r caerau Rhufeinig yn Llanymddyfri a Chaerfyrddin ac mae cyfeiriad i’r ffaith ei bod i’w gweld ger Abermarlais ym mhlwyf Llansadwrn.
Ym Marc Abermarlais, Llansadwrn hefyd yn ôl Archaelogia Cambrensis 1864 wrth iddynt ddraenio’r tir, daethpwyd o hyd i fodrwy Rufeinig wedi’i cheugerfio tua throedfedd o dan y ddaear.
Cyfnod y Rhufeiniaid a’r Cyfnod Cyn Hanes
Rhestr o Feini Mawr
Mae’r rhestr yn cynnwys ‘Maen Cilau, Abermarlais, Llansadwrn’.
Maenor Llansadwrn
Ednyfed Fychan oedd y prif gynghorwyr i dywysogion Gwynedd ac yn arbennig Llywelyn Fawr. Priododd un o ferched yr Arglwydd Rhys a daeth yn Arglwydd ar Faenor Llansadwrn ac yn 1229 derbyniodd nawdd y Goron.
Rhys ap Gruffydd oedd mab Hywel ap Gruffydd ap Ednyfed Fychan. Rhys oedd stiward Sir Aberteifi yn 1309 ac yn 1324 am ei ffyddlondeb i’r Goron, rhoddwyd iddo Faenor Llansadwrn.
Daw’r uchod o’r wefan ganlynol :
http://www.genuki.org.uk/big/wal/CMN/Llansadwrn/Lloyd.html
Gwefannau perthnasol eraill:
Carmarthen Archive Service Lansadwrn parish Council records http://www.archiveswales.org.uk/anw/get_collection.php?inst_id=30&coll_id=1590&expand=
A Topographical Dictionary of Wales http://www.british-history.ac.uk/report.aspx?compid=47856#s8
Vision of Britain
http://www.visionofbritain.org.uk/place/6613