Yn ddiweddar, mae grŵp bach o bentrefwyr yn Llansadwrn, wedi neud cais am grant Perthyn grant ai ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd yn darparu cefnogaeth cyfnod cynnar lleol i gymunedau Cymreig yng ngogledd a gorllewin Cymru sydd â diddordeb mewn datblygu syniadau menter gymdeithasol.
Mae’r grwp wedi bod yn llwyddiannus, ac wedi derbyn grant i wneud gwaith ymchwil dwys yn ardal Llansadwrn a’i chyffiniau, yn gofyn cwestiynau fydd yn crynhoi gweledigaeth pentrefwyr lleol am faterion iaith, diwylliant, amgylchedd, ynni, trafnidiaeth ac asedau lleol – yr holl bethau sydd yn gwneud yr ardal yn ddymunol, neu’n annymunol i fyw ynddi.
Mi fydd y prosiect hefyd yn gofyn am syniadau a gweledigaethau pobol leol am ba fath o bethau hoffent ei weld yn cael ei ddatblygu yn yr ardal, dan arweiniad a pherchnogaeth menter gymdeithasol a chymunedol. Bydd y wybodaeth yma yn caniatáu i’r pentref amlygu prosiectau posib er budd cynaliadwyedd ein cymuned.
Mae’r Gymraeg yn ganolog i delerau’r grant, ac felly i’r gwaith ymchwil yma hefyd. Bydd y grant hefyd yn gallu ariannu’r gymuned i edrych ar ddatblygu endid cymunedol newydd (fel CIC neu CBS), all ddatblygu rhai o’r syniadau bydd yn deillio o’r gwaith ymchwil a’r ymgynghoriad cymunedol.
Bydd y grant yn cael ei gadw a’i ddosbarthu trwy fenter Cwmpas, ac mae yna dwy grwp ymgynghori yn datblygu’r gwaith ymchwil, sef Pobol Tir Môr ac Iaith.Cyf – y ddau yn brofiadol iawn yn cynnal gwaith ymchwil o’r fath ar draws cymunedau de-orllewin Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn debygol o ddechrau diwedd Chwefror/dechrau Mawrth, gydag adroddiad cynhwysfawr wedi ei greu erbyn diwedd mis Mawrth/dechrau mis Ebrill. Bydd yr adroddiad wnaiff grynhoi eich lleisiau chi yn caniatáu i ni allu wedyn ceisio am grantiau mwy i weithredu rhai o’r syniadau cymunedol sy’n deillio o’r ymchwil.
Os ydych chi yn byw a bod yn ardal Llansadwrn a’i chyffiniau – rydym am glywed eich syniadau a theimladau chi am fyw yn y gymuned hon! Mi fydd yna amrywiaeth o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan ac ymroi syniadau i’r ymchwil hon, gan gynnwys diwrnod agored cymunedol yn Chwefror/Mawrth 2026. Bydd datblygiadau pellach yn cael ei hysbysebu trwy wefan Llansadwrn a’r dudalen Facebook cymunedol, Y Lloffwr, The Post.
Croeso i unrhywun sydd â diddordeb, eisiau ymuno â’r grwp llywio neu eisiau helpu neu gynnig unrhyw awgrymiadau neu syniadau, i gysylltu â Sioned Haf trwy e-bost (sionedhaf@hotmail.com) neu dros y ffôn: 07529901523


