Ers yr ymgynhoriad cymunedol ym mis Tachwedd bu’r gwirfoddolwyr sydd â’r cyfrifoldeb am sefydlu Gardd Gymunedol Llansadwrn wrthi’n ddyfal gan baratoi’r cyfansoddiad a’r polisïau, agor cyfrif banc, a threfnu yswiriant.
Yn ychwanegol, mae’r Ardd Gymunedol wedi derbyn rhodd hael oddi wrth Y Parchedig Vanessa Hope-Bell er cof am ei mab Joel, preswylydd Llansadwrn.
Fel canlyniad ar fore dydd Sadwrn Chwefror 2ail am 10.30am bydd y weithred wirioneddol gyntaf yn digwydd. Plennir dau fath o afalau, gan gynnwys ‘Tin yr Wydd’ – afal pobi cynnar o Langadog. Hefyd plennir bylbiau brodorol. Mae croeso cynnes iawn i bawb cymryd rhan, naill ai helpu neu ddod i edrych a sgwrsio yn unig.
Mae’r Ardd i bawb, felly peidiwch bod yn swil!