Category Archives: Sinema Sadwrn

Ffilm Nadolig

Nightmare before Christmas Sinema Sadwrn

Gobeithio gallwch chi ymuno â ni yn nhafarn y Sexton’s ddydd Gwener 21 Rhagfyr am ddwy ffilm Nadolig.

Am 4pm – The Nightmare before Christmas

Ac am 7pm – Miracle on 34th Street (Rhagor o fanylion am y ffilmiau isod…)

Bydd mynediad i’r ddwy ffilm AM DDIM. Diolch yn fawr i bwyllgor Darllenfa Llansadwrn am gefnogi’r digwyddiad ac i Cliff yn y Sexton’s am y croeso.

Bydd swper ar gael gan Gardd Sadwrn hefyd. Bydd dewis o gŵn poeth organig gan gynnwys rhai llysieuol (gyda’r holl drimins), tsili Gardd Sadwrn gyda phwmpen wedi’i rhostio a ffa, gyda hufen sur neu salsa neu India corn, creision tortilla a chaws. Bydd dewis o blât mawr neu blât bach, yn dibynnu faint o chwant bwyd fydd arnoch chi.

Pwdin i’w gyhoeddi…

Y ffilmiau

4pm – The Nightmare before Christmas

Mae Tim Burton yn cyfuno’r Nadolig a Chalan Gaeaf mewn animeiddiad unigryw o 1993 sy’n iasol ac yn dwymgalon ar yr un pryd. Mae’r ffilm yn dilyn stori Jack Skellington, brenin Tre Calan Gaeaf, sy’n syrthio dryw borth hud i Dre’r Nadolig, ac yn penderfynu dathlu’r ŵyl, gan arwain at ganlyniadau dychrynllyd a difyr.

Hyd y ffilm 73 munud, Tystysgrif PG.

7pm-9pm Miracle on 34th Street!

Yn y clasur Nadoligaidd hwn, mae hen ddyn o’r enw Kris Kringle (Edmund Gwen) yn cymryd lle Siôn Corn yn siop Macy’s ar Ddiwrnod Diolchgarwch am fod y dyn a oedd i fod i wneud hynny wedi meddwi. Mae Kringle mor boblogaidd mae’n cael ei wahodd yn ôl yn gyson i’r siop yng nghanol Manhattan, ond mae cwsmeriaid a gweithwyr eraill y siop yn cael sioc pan fo Kringle yn dweud wrthynt mai ef yw’r Siôn Corn go iawn. Mae hynny’n arwain at achos llys i asesu ei iechyd meddwl, ac yn bwysicach fyth, a yw e’n dweud y gwir.

Hyd y ffilm 96 munud, Tystysgrif U.

Llwyddiant cenedlaethol i Sinema Sadwrn – Cymdeithas Ffilmiau Newydd Orau 2018

Sinema Sadwrn award

Mae Sinema Sadwrn, sinema gymunedol newydd sy’n cynnal dangosiadau bob mis yn Narllenfa Llansadwrn, yn falch iawn o gael ei henwi’n ‘Gymdeithas Ffilmiau Newydd Orau 2018’ yng ngwobrau Cinema for All, a gynhaliwyd ym mis Medi.

Lluniodd panel o feirniaid restr fer yn cynnwys sinemâu o Lerpwl, Manceinion, Llundain, Slough a chanolbarth Lloegr, ond Sinema Sadwrn a ddaeth i’r brig. Yn ôl y beirniaid,

““Ers ei sefydlu llai na blwyddyn yn ôl, mae’r grŵp yma wedi dechrau arni’n syth gan ychwanegu adnodd poblogaidd, mawr ei angen, at ei gymuned wledig. Gyda dulliau marchnata gwych, cynulleidfaoedd da a rhaglen ddifyr a chytbwys o ffilmiau, mae’r grŵp hwn wedi gosod sylfaen gref ar gyfer y dyfodol. Mae’n glir fod ganddynt weledigaeth, strategaeth i’w chyflawni, a ffyrdd o werthuso hyn oll yn llwyddiannus – sy’n gamp fawr ar gyfer cymdeithas newydd.””

Sinema Sadwrn accepting the award from the mayor of Sheffield Magid Paddington 2 showing at Sinema Sadwrn
<
>
Sinema Sadwrn accepting the award from the mayor of Sheffield Magid

Teithiodd dau o wirfoddolwyr y sinema, Drew Moxham a Lisa Denison, i seremoni arbennig yn Sheffield i gasglu’r wobr gan Arglwydd Faer y ddinas, Magid Magid. Roedd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn penwythnos o weithdai a dangosiadau yng nghwmni aelodau o sinemâu cymunedol eraill o bob cwr o’r DU.

“Roedd hi’n dipyn o sioc ennill y wobr, ac roedd hi’n hyfryd clywed cymaint o eiriau caredig, cyngor a chefnogaeth gan yr holl grwpiau eraill a oedd yn rhan o’r digwyddiad. Gobeithio i ni lwyddo i chwifio’r faner dros Gymru a hybu sinemâu gwledig”, meddai Lisa.

Mae’r wobr yn deyrnged wych i waith caled gwirfoddolwyr Sinema Sadwrn. Ers eu dangosiad cyntaf ym mis Mawrth eleni, mae’r tîm wedi cyflwyno rhaglen amrywiol o gomedïau, dramâu a chlasuron.

Maent hefyd yn frwd dros hybu ffilmiau o Gymru drwy raglen reolaidd o ffilmiau byrion a ffilmiau nodwedd. Ym mis Gorffennaf, mentrodd y criw allan o’r Ddarllenfa i gynnal dangosiad am ddim o ‘The Greatest Showman’, a ariannwyd yn garedig gan noddwyr lleol, fel rhan o Barti Mawr Llansadwrn ar y cae cymunedol. Ym mis Awst, cynhaliwyd dangosiad i deuluoedd o ‘Paddington 2’ yn y Sexton Arms, gyda dewis o fwyd blasus wedi’i ddarparu gan Gardd Sadwrn.

Bydd Sinema Sadwrn yn dychwelyd i’r Ddarllenfa ym mis Hydref i ddangos tair ffilm ddogfen am Gymru wledig, gyda chefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru.

Y brif ffilm fydd ‘Sleep Furiously‘, gan Gideon Koppel, ffilm delynegol ei naws am fynd a dod yng nghymuned Trefeurig. Bydd dwy ffilm fer yn rhan o’r arlwy hefyd: ‘A Good Bitch’, gan Rhys Edwards, am deulu ffermio yn y gogledd a’u cŵn defaid; a ‘Dial-a-Ride’, gan Superfolk Films, sy’n ddarlun teimladwy o’r teithwyr ar wasanaeth bws cymunedol ym Mannau Brycheiniog.

Bydd lluniaeth ysgafn, cyflwyniad byr a chyfle i sgwrio ar ôl gwylio’r ffilmiau.

I gael rhagor o wybodaeth am ddangosiadau Sinema Sadwrn, chwiliwch am dudalen Sinema Sadwrn ar Facebook. Croeso i bawb.

Lluniau gan Mark Epstein

Sinema Sadwrn – Paddington 2

Paddington Sinema Sadwrn

Bydd Sinema Sadwrn yn mynd am dro i dafarn y Sexton Arms, Llansadwrn, ddydd Gwener 31 Awst am ein dangosiad i deuluoedd, Paddington 2.

Yn byw’n hapus gyda Mr Brown a’i deulu, mae Paddington yn aelod poblogaidd o’r gymuned sy’n lledu hwyl a sbri a marmalêd ble bynnag yr aiff. Un dydd, mae’n gweld llyfr arbennig mewn siop hen bethau – yr anrheg berffaith i’w fodryb ar ei phen-blwydd yn 100 oed. Pan fo’r llyfr yn cael ei ddwyn, mae Paddington yn mentro ar daith gyffrous i ddal y lleidr cyn dathliad mawr Aunt Lucy. Tystysgrif PG, 103 munud.

Cyn y brif ffilm, byddwn ni’n dangos y ffilm fer The Man Who Was Afraid of Falling, gyda diolch i’r animeiddiwr Joseph Wallace.

Bydd ein ffrindiau o Gardd Sadwrn yn darparu bwyd o 6pm. Bydd y ffilmiau’n dechrau am 6.30.

Bydd raffl ar y noson hefyd i godi arian i ras elusennol anhygoel Menna Evans o John O’Groats i Land’s End, ynghyd â gwobrau am y wisg ffansi orau ar thema Paddington.

Paddington bear supper