Category Archives: Village events

Mae angen eich mewnbwn ar grŵp newydd lleol

Yn ddiweddar, mae grŵp bach o bentrefwyr yn Llansadwrn, wedi neud cais am grant Perthyn – grant ai ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd yn darparu cefnogaeth cyfnod cynnar lleol i gymunedau Cymreig yng ngogledd a gorllewin Cymru sydd â diddordeb mewn datblygu syniadau menter gymdeithasol. 

Mae’r grŵp wedi bod yn llwyddiannus, ac wedi derbyn grant i wneud gwaith ymchwil dwys yn ardal Llansadwrn a’i chyffiniau, yn gofyn cwestiynau fydd yn crynhoi gweledigaeth pentrefwyr lleol am faterion iaith, diwylliant, amgylchedd, ynni, trafnidiaeth ac asedau lleol – yr holl bethau sydd yn gwneud yr ardal yn ddymunol, neu’n annymunol i fyw ynddi. Mi fydd y prosiect hefyd yn gofyn am syniadau a gweledigaethau pobol leol am ba fath o bethau hoffent ei weld yn cael ei ddatblygu yn yr ardal, dan arweiniad a pherchnogaeth menter gymdeithasol a chymunedol. Bydd y wybodaeth yma yn caniatáu i’r pentref amlygu prosiectau posib er budd cynaliadwyedd ein hardal.

Mae’r Gymraeg yn ganolog i delerau’r grant, ac felly i’r gwaith ymchwil yma hefyd. Bydd y grant hefyd yn gallu ariannu’r gymuned i edrych ar ddatblygu endid cymunedol newydd all ddatblygu rhai o’r syniadau bydd yn deillio o’r gwaith ymchwil a’r ymgynghoriad cymunedol.

Os ydych chi yn byw a bod yn ardal Llansadwrn a’i chyffiniau – rydym am glywed eich profiadau a theimladau chi am fyw yn yr ardal hon a syniadau yr allwn, o bosib, ei ddatblygu yn yr ardal! Mi fydd yna amrywiaeth o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan ac ymroi syniadau i’r ymchwil hon, gan gynnwys diwrnod agored cymunedol ar y 14eg o Fawrth yn Narllenfa Llansadwrn, rhwng 12 a 4 o’r gloch; gyda bwyd, diod a gweithgareddau.

Croeso i unrhywun sydd â diddordeb, eisiau ymuno â’r grwp llywio neu eisiau helpu neu gynnig unrhyw awgrymiadau neu syniadau, i gysylltu â Sioned Haf trwy e-bost (sionedhaf@hotmail.com) neu dros y ffôn: 07529901523

Recently, a small group of villagers in Llansadwrn, have applied for a Perthyn grant funded by the Welsh Government, which provides early-stage support to Welsh communities in north and west Wales who are interested in developing social enterprise ideas.

The group has been successful, and has received a grant to carry out intensive research work in the Llansadwrn area and its surroundings, asking questions that will summarise the vision of local villagers about issues around language, heritage, culture, environment, energy, transport, housing and local assets – all the things that make the area desirable, or undesirable to live in. The project will also ask for the ideas and visions of local people about what kind of things they would like to see developed in the area, under the leadership and ownership of a social or community enterprise. This information will allow the village to identify possible projects that could be taken forwards, for the benefit of the sustainability of our community.

Exploring the long-term sustainability and survival of the Welsh language is central to the terms of the grant, and therefore to this research as well. The grant will also be able to fund the community to look at developing a new community entity which can develop some of the ideas that will arise from the research and community consultation.

If you live or are involved with life in the village and surrounding areas – we want to hear about your experiences and feelings about living in this community and ideas that could, potentially be developed in this area! There will be a variety of ways for you to participate and contribute ideas to this research, including an open day event on the 14th of March, from 12-4pm at the Reading Rooms (with food, drinks and activities to coincide).

A warm welcome to anyone who is interested in this development, or who wants to join the steering group or wants to help or offer any suggestions or ideas, to contact Sioned Haf by email (sionedhaf@hotmail.com) or by phone: 07529901523

Y coetir coffa yn Brownhill – Y Wybodaeth ddiweddaraf

Y coetir coffa yn Brownhill – Y Wybodaeth ddiweddaraf

Yn dilyn fy ngohebiaeth flaenorol ar 22 Mehefin, rwy’n ysgrifennu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynlluniau ar gyfer y coetir coffa yn Brownhill, yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.

Diolch i chi am gymryd yr amser i rannu eich adborth gyda ni drwy ein hymgynghoriad cyhoeddus a’r digwyddiadau galw heibio yn ystod ym mis Mawrth a mis Mehefin y llynedd. Roeddem yn falch o allu cysylltu â chymaint o drigolion a chael y cyfle i wrando ar farn a phryderon pobl ar y cynigion ar gyfer y tir yn Brownhill.

Ar ôl gwrando’n ofalus ar yr adborth a gawsom, rydym yn falch o allu rhannu’r dyluniadau ar gyfer y safle a rhoi gwybod i chi am y camau nesaf.

Mae’r safle bellach wedi’i rannu’n dri phrif faes, gyda phob un yn blaenoriaethu gwahanol amcanion. Bydd ardal gadwraeth fel bod cyfle i fywyd gwyllt ffynnu, ardal o goetir ar gyfer coffau sy’n gwbl hygyrch, ac ardal dyfu i ddarparu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd, a choed a natur.

Rydym wedi nodi crynodeb o’n cynlluniau isod, gan amlinellu sut y byddwn yn cyflawni’r amcanion ar gyfer pob maes, gan ystyried yr ymatebion a gawsom drwy ein hymgynghoriad:

Ardal un – Ardal gadwraeth 

Prif amcanion 

Ein prif amcan ar gyfer y man cadwraeth yw gwella pwyntiau mynediad er mwyn sicrhau bod y cyhoedd a physgotwyr lleol yn gallu cael mynediad diogel i’r afon a chreu coetir glannau afon a choetir gwlyb er budd bioamrywiaeth a hyrwyddo gorlifdir actif iach. 

Sut byddwn yn cyflawni hyn: 

Ychydig iawn o ymyrraeth fydd angen ar gyfer ein cynlluniau cychwynnol ar gyfer y rhan hon o’r safle. Bydd yr ardal yn cael datblygu’n goetir glan yr afon ar gyfer hybu prosesau naturiol, fel sydd wedi bod yn wir ers deng mlynedd. Byddwn yn gwella mynediad cyhoeddus drwy adfer pont droed a sefydlu llwybr cerdded anffurfiol a fydd yn galluogi pobl a physgotwyr i gael mynediad diogel i lan yr afon a mwynhau’r bywyd gwyllt. Bydd arwyddion yn cael eu gosod i roi gwybodaeth i bobl ar sut y gallan nhw ddefnyddio’r ardal yn ddiogel yn ogystal â helpu i ofalu am yr ardal. Ymhen peth amser, byddwn hefyd yn archwilio cyfleoedd i wneud gwaith adfer ar y rhan o’r afon sydd wedi’i throi’n fwy o gamlas, a hynny er mwyn ei niwtraleiddio a’i gwella fel cynefin ar gyfer pysgod a thrychfilod.

Gellir gweld manylion llawn gan gynnwys mapiau a lluniadau o’r ardal gadwraeth trwy ymweld â safle’r prosiect ar Citizen Space o’r 19fed o Ionawr.

Ardal dau – Ardal y coetir

Prif amcanion 

Ein prif amcan ar gyfer ardal y coetir yw creu coetir llydanddail brodorol. Bydd hyn yn cynyddu amrywiaeth cynefinoedd ac yn darparu man gwyrdd y gall pobl ddod iddo i fyfyrio a chofio anwyliaid.

Sut byddwn yn cyflawni hyn:

Mae’r coetir wedi’i ddylunio i wella nodweddion presennol y safle a byddwn yn cadw man agored sylweddol i ddarparu cynefin agored pwysig. Er mwyn sicrhau bod y coetir newydd yn gallu gwrthsefyll bygythiadau o blâu a chlefydau a newid yn yr hinsawdd, byddwn yn plannu amrywiaeth eang o rywogaethau a llwyni, gan gynnwys Derw, Oestrwydd, Pisgwydd dail bach, Cyll ac Afalau surion.

Er mwyn helpu i wella mynediad cyhoeddus a sicrhau diogelwch ymwelwyr i’r safle, bydd maes parcio yn cael ei adeiladu. Bydd mynedfeydd presennol i’r caeau yn cael eu huwchraddio, a gosodir pontydd troed bychan er mwyn creu teithiau cylchol o amgylch yr ardal.

Bydd meinciau hefyd yn cael eu gosod ger y fynedfa a bydd coed ffrwythau a chnau yn cael eu plannu i greu nodwedd flodeuo yn y Gwanwyn a darparu ffrwythau i ymwelwyr a’r gymuned eu casglu. Rydyn ni hefyd wedi bod yn awyddus i gael enw priodol ar gyfer y coetir coffa. Gan fod y tir yn arfer bod yn rhan o Ystad Abermarlais a bod Afon Marlais yn ei groesi, caiff y coetir ei alw’n ‘Coedwig Abermarlais’.

Gellir gweld manylion llawn gan gynnwys mapiau a lluniadau o’r ardal gadwraeth trwy ymweld â safle’r prosiect ar Citizen Space o’r 19fed o Ionawr.

Ardal tri – Yr Ardal dyfu 

Prif amcanion 

Ein prif amcan ar gyfer yr Ardal dyfu oedd sefydlu partneriaeth i’n galluogi i ddarparu cyfleoedd cynaliadwy i dyfu bwyd, coed a hybu natur a gwella ansawdd dŵr, iechyd y pridd ac amrywiaeth cynefinoedd a rhywogaethau.

Sut byddwn yn cyflawni hyn:

Gwnaethom gyflwyno nifer o ddewisiadau ar gyfer cynyddu gorchudd o goed ochr yn ochr â pharhad chynhyrchu amaethyddol parhaus gan ofyn i’r ymgynghorai drafod rhinweddau’r hyn yr hoffent fwyaf ei weld yn cymryd lle. Cafodd yr awgrym o barhad cynhyrchu amaethyddol ochr yn ochr â mwy o orchudd coed dderbyniad da.

Y cynllun ar gyfer yr ardal hon yw cynyddu’r gorchudd coed i tua 20%, byddwn yn gwneud hyn trwy ledu’r cloddiau presennol ac ailsefydlu gwrychoedd ar hyd ffiniau caeau hanesyddol sydd wedi’u colli. Byddwn hefyd yn plannu ar hyd ymyl y cae ger y coetir presennol ac yn sefydlu Clystyrau o goed yn y caeau a fydd yn y dyfodol yn creu cynefin o fath o borfa goed.  Bydd y planhigion newydd yn cael ei ffensio i ganiatáu i bori barhau ar y rhan fwyaf o’r tir, a bydd y tir yn cael ei reoli yn unol â chyfarwyddiadau er budd bywyd gwyllt, iechyd y pridd, ac ansawdd dŵr.

Yn y tymor hwy, byddwn yn ceisio sefydlu partneriaeth ar gyfer rheolaeth hirdymor o’r ardal hon mewn cydweithrediad â fferm neu ffermydd lleol. Bydd hyn yn cynnwys cyd-ddylunio’r ardal ymhellach gyda’r potensial ar gyfer mwy o blannu neu gnydau eraill ar gyfer y glaswelltir sydd wedi’i wella a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Gellir gweld manylion llawn gan gynnwys mapiau a lluniadau o’r ardal gadwraeth trwy ymweld â safle’r prosiect ar Citizen Space o’r 19fed o Ionawr.

Camau nesaf 

Wrth greu coetir newydd, rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar weithio’n agos gyda chymunedau lleol a rhanddeiliaid i roi’r cyfle iddyn nhw fod yn rhan o’r cynlluniau a rhannu eu syniadau gyda ni. Rydym yn awyddus i barhau â’r cysylltiad rhagweithiol hwn yn Brownhill wrth i’r safle ddatblygu. 

Yn y dyfodol agos, byddwn yn creu cyfleoedd i wirfoddolwyr ein helpu i baratoi a phlannu coed ar y safle. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y dyddiadau a’r amseroedd ar gyfer y rhain atoch maes o law.

Queen’s Platinum Jubilee Beacons

Further to the announcement from Buckingham Palace on 2nd June last year, regarding the Platinum Jubilee Weekend of 2nd – 5th June this year of which The Queen’s Platinum Jubilee Beacons is a major part, I have pleasure in confirming the current Guide To Taking Part in this event is available to view and download from – www.queensjubileebeacons.com and will continue to be updated on this site at the end of each month through to 30th May 2022, as more and more communities, organisations, charities, councils, local authorities, farms, country estates, historic houses, voluntary groups and individuals etc, agree to take part.

Pages 16, 17, 18 and 19 show the various types of beacons being used for this historic tribute to Her Majesty The Queen on 2nd June 2022, that can either be lit in farmers’ fields, on country estates, high hill tops, on beaches surounding our shores, as well as our town and village greens, along with other public spaces etc, with gas-fuelled beacons lit on church towers and castle battlements. Permanent beacon braziers made by local craftsmen/women being lit in the towns and villages also provide a lasting reminder of this historic moment in The Queen’s reign.

Many of those receiving this communication will already have permanent beacons in place, so please light them for this occasion, remembering to register your involvement as soon as possible please. From page 23 onwards you will see the many hundreds to date that have already agreed to participate in this event throughout the UK and in the Capital Cities of the Commonwealth countries. These lists will be added to over the next few months as more communities etc, join the project.

From the guide you will see that Town Criers will be undertaking the ‘Proclamation’ at 2pm announcing the lighting of the beacons that evening, Pipers playing ‘Diu Regnare’ at 9.35pm, with Buglers and Cornet players undertaking the Bugle Call – ‘Majesty’ at 9.40pm, before the beacons are lit at 9.45pm, and to coincide with their lighting, we are encouraging the involvement of choirs of all sizes etc, to sing the ‘Song for the Commonwealth,’ providing another colourful, community element of this Jubilee celebration, involving people of all ages and walks of life, so we invite you to source these choirs locally from schools, churches, and others, adding to your occasion that evening.

If you are able to obtain one of more of these, please be kind enough to register their involvement in the ways outlined below as soon as possible or by no later than 30th May 2022.

Download to find out more

Cinio Mawr 3!

Llansadwrn Big Lunch 2017

Out enjoying the sunshine at Llansadwrn Big Lunch 2018Cyfle arall i gymuned Llansadwrn rannu bwyd blasus a chwmni da CINIO MAWR LLANSADWRN 2019 Dydd Sadwrn 13eg Gorffennaf o 12.00 y.p. Cau Cymuned Llansadwrn

Croeso i bawb

Yr unig beth sydd eisiau i chi ei wneud yw dod ar y dydd gyda bwyd i’w rannu. Os medrwch ein cynorthwyo mewn unrhyw fodd, gwerthfawrogwn hynny’n fawr.
Rhowch wybod os gellwch helpu gyda:

  • Arddurno’r babell;
  • Gosod popeth i fyny / symud byrddau a chadeiriau;
  • Arddurno bord;
  • Parcio;
  • Trefnu neu helpu gyda gweithgareddau ar y dydd;
  • Cyfrannu i’r adloniant amser cinio;
  • Tacluso pob dim ar ddiwedd y dydd.

RHAGLEN:
12.00y.p. Dewch â bwyd i’w rannu (a blodau am y ford os wyt ti’n gallu).
12.30y.p. Cinio & adloniant cerddorol – yn cynnwys Band Tref Llandeilo Band, Harmoni Tywi a cherddorion a pherfformwyr lleol.
3.00y.p. Mabolgampau a gweithgareddau i blant
4.00y.p. Helfa Drysor
5.30y.p. Tynnu Rhaf
8y.p. SINEMA SADWRN yn cyflwyno ‘The Jungle Book’ PG yn y babell. Mynediad AM DDIM hefyd BWYD STRYD i brynu & RAFFL yn y nos (i’w dynnu yn dilyn y ffilm)

A wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen i Trish Evans, Bellview, Llansadwrn, SA19 8LF neu anfon ebost at:
trish-evans@hotmail.co.uk erbyn Dydd Sadwrn 29ain Mehefin os hoffech ddod/yn gallu helpu.
DIOLCH!

    Any information shared here will only be used for the Big Lunch organisation

    YNGHYLCH : CAU FFORDD DROS DRO – C2169 TALYLLYCHAU, LLANDEIL

    Mae cais wedi dod i law am gau dros dro yr C2169, Talyllychau, Llandeilo o fan sydd ½ milltir i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â’r B4302 am bellter o 300 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

    Mae angen cau’r ffordd er mwyn i Utility Services Ltd osod polion BT newydd a hynny o 08:00 ddydd Mercher, 1 Mai 2019 am gyfnod o 3 diwrnod.

    Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gogledd-orllewin fydd parhau i gyfeiriad y dwyrain i’r de-ddwyrain ar hyd yr C2169 hyd at y gyffordd â’r C2170. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a theithio tua’r de-orllewin ar hyd yr C2170 hyd at y gyffordd â’r B4302. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a theithio tua’r gogledd-orllewin ar hyd y B4302 hyd at y gyffordd â’r C2169. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a pharhau i gyfeiriad y de-ddwyrain er mwyn dychwelyd i fan sydd i’r gogledd-orllewin o’r man lle mae’r ffordd ar gau. I’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio dwyrain.