Category Archives: Festri

Cynefin Llansadwrn

Llansadwrn community garden

Yn ddiweddar, mae grŵp bach o bentrefwyr yn Llansadwrn, wedi neud cais am grant Perthyn  grant ai ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd yn darparu cefnogaeth cyfnod cynnar lleol i gymunedau Cymreig yng ngogledd a gorllewin Cymru sydd â diddordeb mewn datblygu syniadau menter gymdeithasol.

Mae’r grwp wedi bod yn llwyddiannus, ac wedi derbyn grant i wneud gwaith ymchwil dwys yn ardal Llansadwrn a’i chyffiniau, yn gofyn cwestiynau fydd yn crynhoi gweledigaeth pentrefwyr lleol am faterion iaith, diwylliant, amgylchedd, ynni, trafnidiaeth ac asedau lleol  – yr holl bethau sydd yn gwneud yr ardal yn ddymunol, neu’n annymunol i fyw ynddi.

Mi fydd y prosiect hefyd yn gofyn am syniadau a gweledigaethau pobol leol am ba fath o bethau hoffent ei weld yn cael ei ddatblygu yn yr ardal, dan arweiniad a pherchnogaeth menter gymdeithasol a chymunedol. Bydd y wybodaeth yma yn caniatáu i’r pentref amlygu prosiectau posib er budd cynaliadwyedd ein cymuned.

Mae’r Gymraeg yn ganolog i delerau’r grant, ac felly i’r gwaith ymchwil yma hefyd. Bydd y grant hefyd yn gallu ariannu’r gymuned i edrych ar ddatblygu endid cymunedol newydd  (fel CIC neu CBS), all ddatblygu rhai o’r syniadau bydd yn deillio o’r gwaith ymchwil a’r ymgynghoriad cymunedol.

Bydd y grant yn cael ei gadw a’i ddosbarthu trwy fenter Cwmpas, ac mae yna dwy grwp ymgynghori yn datblygu’r gwaith ymchwil, sef Pobol Tir Môr ac Iaith.Cyf – y ddau yn brofiadol iawn yn cynnal gwaith ymchwil o’r fath ar draws cymunedau de-orllewin Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn debygol o ddechrau diwedd Chwefror/dechrau Mawrth, gydag adroddiad cynhwysfawr wedi ei greu erbyn diwedd mis Mawrth/dechrau mis Ebrill. Bydd yr adroddiad wnaiff grynhoi eich lleisiau chi yn caniatáu i ni allu wedyn ceisio am grantiau mwy i weithredu rhai o’r syniadau cymunedol sy’n deillio o’r ymchwil. 

Os ydych chi yn byw a bod yn ardal Llansadwrn a’i chyffiniau – rydym am glywed eich syniadau a theimladau chi am fyw yn y gymuned hon! Mi fydd yna amrywiaeth o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan ac ymroi syniadau i’r ymchwil hon, gan gynnwys diwrnod agored cymunedol yn Chwefror/Mawrth 2026. Bydd datblygiadau pellach yn cael ei hysbysebu trwy wefan Llansadwrn a’r dudalen Facebook cymunedol, Y Lloffwr, The Post.

Croeso i unrhywun sydd â diddordeb, eisiau ymuno â’r grwp llywio neu eisiau helpu neu gynnig unrhyw awgrymiadau neu syniadau, i gysylltu â Sioned Haf trwy e-bost (sionedhaf@hotmail.com) neu dros y ffôn: 07529901523

Festri Eglwys Llansadwrn

The Vestry Venture group outside in sunny Llansadwrn

Llansadwrn Vestry Venture

Llansadwrn Vestry Venture

Mae’r festri Eglwys Llansadwrn ar agor eto ar Ddydd Mawrth 11 mid medi, wn rhwng 2.00-5.00.

Y syniad yw i ddarparu’r cyfle lle gall pobl Llansadwrn gwrdd â’i gilydd yn anffurfiol, yn arbennig newydd ddyfodiaid sy ddim wedi cael y cyfle i gwrdd â phobl leol eto. Bydd dysgliad o de neu goffi ar gael, hefyd planhigion a llyfrau clawr papur i’w cyfnewid neu rannu, a lle diogel i blant bach chwarae.

Galwch mewn nawr ac yn y man, hyd yn oed am amser byr- byddwn ni’n gwerthfawrogi’ch presenoldeb yn fawr.

Ac os oes gyda chi syniadau sut gall y fenter hon ddatblygu ymhellach, byddai croeso i chi ddod a’u rhannu nhw hefyd. Dewch i mewn.