Cyfle newydd cyffrous – Pecynnau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Mae’n bleser gennym lansio ein cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – menter newydd sbon wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at greu, adfer a gwella cannoedd o gynefinoedd ledled y wlad.
Mae’r broses ymgeisio ar agor nawr i grwpiau a mudiadau cymunedol sy’n awyddus i helpu i gildroi dirywiad byd natur.
I’w gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl gymryd rhan, rydyn ni wedi dylunio detholiad o ‘becynnau’ wedi’u teilwra i wahanol grwpiau a sefydliadau. Mae pob pecyn, y mae ei gost wedi’i thalu ymlaen llaw, yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau eraill. Byddwn yn delio â’r archebion a’r danfoniadau, a bydd ein swyddogion prosiect hyd yn oed yn darparu cymorth ar lawr gwlad i’ch helpu i greu eich man newydd ar gyfer byd natur.
Mae ein pecynnau yn perthyn i dri chategori – cliciwch y dolenni isod am fwy o wybodaeth:
- Pecynnau dechreuol i gynghorau tref a chymuned (1 yr un) – dewiswch naill ai a) Gardd Pili Pala, b) Gardd Ffrwythau neu c) Gardd Bywyd Gwyllt. Darllen y canllawiau a’r Cwestiynau Cyffredin
- Pecynnau dechreuol i sefydliadau cymunedol (3 fesul sir) – dewiswch naill ai a) Gardd Pili Pala, b) Gardd Ffrwythau neu c) Gardd Bywyd Gwyllt. Darllen y canllawiau a’r Cwestiynau Cyffredin
- Pecynnau datblygu i sefydliadau cymunedol (3 fesul sir) – dewiswch naill ai a) Man tyfu bwyd, b) System draenio cynaliadwy neu c) Gardd Bywyd Gwyllt. Llwytho’r nodiadau canllaw i lawr
Mae’r broses ymgeisio’n un hawdd ac rydyn ni’n disgwyl llawer o ymgeiswyr, felly gwnewch gais cyn gynted â phosib! Dyddiad cau’r cylch ceisiadau cyntaf yw 12pm ddydd Gwener 6 Mawrth.