Date/Time
Date(s) - 25/11/2022
7:00 pm - 9:00 pm
Location
Reading Room
Categories
Mae Brian yn ddyfeisiwr unig, anffodus sy’n penderfynu rhoi cynnig ar brosiect uchelgeisiol. Ei gampwaith anhygoel yw ‘Charles’ – robot sydd wedi’i greu o bob math o hen bethau, gan gynnwys peiriant golchi – sydd a’i bersonoliaeth ei hun ynghyd ag obsesiwn rhyfedd a bresych. Mae Brian and Charles yn gomedi dwymgalon am gyfeillgarwch, cariad, a gadael i bethau fynd. Mae wedi’i lleoli mewn rhan anghysbell o Gymru ac fe gafodd ei ffilmio mewn lleoliadau amrywiol yng Ngwynedd. Y ffilm hon oedd ffefryn y gynulleidfa yng Ngwyl Ffilm Sundance 2022: Llundain. Hyd: 1 awr 30 munud.