Passport to Pimlico

Loading Map....

Date/Time
Date(s) - 29/03/2019
7:00 pm - 10:00 pm

Location
Reading Room

Categories


Dewch i nodi dyddiad Brexit drwy wylio un o glasuron comedi stiwdios Ealing.

Pan fo bom Almaenig o’r Ail Ryfel Byd yn ffrwydro’n annisgwyl mae’n datgelu hen seler llawn trysorau ag ynddi siarter frenhinol gan y Brenin Edward IV sy’n datgan bod yr holl dir cyfagos yn eiddo i Ddug Bwrgwyn.

Gan na chafodd y siarter fyth ei dirymu, daw ardal Pimlico yn Llundain yn eiddo i hen Ddugiaeth Bwrgwyn, ac mae’n rhydd felly o gyfraith Prydain, gan gynnwys dogni ar ôl y rhyfel ac oriau cau’r tafarndai. Ond does bosib bod bywyd yn y fath le yn jin a chreision i gyd…
Tystysgrif: U, Hyd: 1 awr 24 munud