A Fantastic Woman

Loading Map....

Date/Time
Date(s) - 31/05/2019
7:00 pm - 10:00 pm

Location
Reading Room

Categories


Mewn clwb nos dywyll yn Santiago, mae Orlando, dyn cyfoethog a charedig sy’n berchen ar gwmni tecstilau, yn syllu i lygaid Marina, cantores ifanc y mae dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi. Ar ôl dathlu pen-blwydd Marina, mae Orlando’n teimlo’n sâl ac erbyn y bore wedyn, mae’n farw.

Yn dilyn marwolaeth ei chariad, nid oes dim yn sicr i Marina mwyach: ei rhan ym marwolaeth Orlando, eu perthynas anghonfensiynol, ac yn fwy na dim, ei hawl i alaru ei cholled. Mae’r ffilm deimladwy hon o Chile wedi ennill sawl gwobr.

Tystysgrif: 15, Hyd: 1 awr 42 munud