Sut a phryd y gallech chi wisgo gorchudd wyneb i amddiffyn y rhai o’ch cwmpas, os byddwch chi’n dewis gwisgo un.
Beth yw gorchudd wyneb?
Prif ddiben gorchudd wyneb yw diogelu pobl eraill drwy leihau’r posibilrwydd y bydd COVID-19 yn cael ei ‘drosglwyddo drwy’r awyr’. Nid yw’r person sy’n gwisgo’r gorchudd yn cael ei ddiogelu rhag cael ei heintio gan bobl eraill.
Beth yw masg wyneb?
Mae masg meddygol sy’n ffitio’n dda wedi’i gynllunio i ddiogelu’r person sy’n ei wisgo rhag haint. Mae masgiau o’r fath yn hanfodol ar gyfer staff rheng flaen sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad agos â chleifion sydd, neu a allai fod, wedi’u heintio â COVID-19.
O ddydd Llun 27 Gorffennaf 2020 bydd yn rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Ble a phryd y maeʼr gofyniad yn gymwys?
Mae’r gofyniad yn gymwys i bob cerbyd trafnidiaeth gyhoeddus caeedig gan gynnwys bysiau, coetsys, trenau, tramiau, fferïau ac awyrennau (lle byddant yn hedfan o Gymru neu’n glanio yng Nghymru). Mae hefyd yn gymwys i dacsis a gwasanaethau i dwristiaid, fel rheilffyrdd mynydd a bysiau gwibdeithiau.
Dylid gwisgo gorchuddion wyneb am y daith gyfan ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod angen eu gwisgo o’r foment y byddwch yn dal y bws, trên ac ati hyd nes y byddwch wedi disgyn. Diweddariadau diweddaraf: https://llyw.cymru/y-gofyniad-i-wisgo-gorchudd- wyneb-ar-drafnidiaeth-gyhoeddus-yng-nghymru
Ymweld â’r ysbyty yn ystod yr achos o coronafeirws: canllawiau wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru 15.07.2020
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut y gall y GIG gynorthwyo ymwelwyr i ymweld â’r ysbyty mewn ffordd ddiogel a gynlluniwyd yn ystod pandemig coronafeirws, ewch i: https://llyw.cymru/ymweld-ag-ysbytai-yn-ystod- y-coronafeirws-canllawiau