Ydy eich cymuned yn gweld hi’n anodd i gael band eang cyflym? Os felly, mae’n bosib gall preswylwyr a busnesau fod yn gymwys i uwchraddio eu band eang.
Mae ymgyrch cronfa band eang y Llywodraeth, a lansiwyd yn Sir Gaerfyrddin ddoe, i helpu busnesau, gweithwyr a chymunedau cefn gwlad i fanteisio ar yr holl fanteision sy’n gysylltiedig â chysylltiadau Rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy.
Mae’r Llywodraeth yn cynnig hyd at £1,500 i drigolion a hyd at £3,500 i fusnesau gwledig i uwchraddio i fand eang gigabit. Bydd uwchraddio i fand eang gigabit yn golygu y bydd gan gartrefi a busnesau yn Sir Gaerfyrddin y cysylltiadau rhyngrwyd gorau.
Gan annog cymunedau i ddod ynghyd, gall trigolion a busnesau gyfuno eu diddordeb i gynyddu’r gronfa gyffredinol. Mae’r cofrestri ar agor tan 30 Medi 2020, ac mae trigolion cefn gwlad a pherchnogion busnesau yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys.
Bydd rhai safleoedd a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin hefyd yn gallu elwa ar gynllun talebau Llywodraeth Cymru, gan gymryd y cyllid posibl ar gyfer safleoedd unigol hyd at £3,000 a hyd at £7,000 ar gyfer busnesau.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y cyllid a ddarperir yn talu am y gost o osod y band eang newydd ar yr amod bod digon mewn prosiect.
Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech hyrwyddo hyn o fewn eich cymunedau.
I gael rhagor o fanylion am hyn, cysylltwch â cejenkins@carmarthenshire.gov.uk