Author: Lyndsey Maiden

YNGHYLCH : CAU FFORDD DROS DRO – C2169 TALYLLYCHAU, LLANDEIL

Mae cais wedi dod i law am gau dros dro yr C2169, Talyllychau, Llandeilo o fan sydd ½ milltir i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â’r B4302 am bellter o 300 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

Mae angen cau’r ffordd er mwyn i Utility Services Ltd osod polion BT newydd a hynny o 08:00 ddydd Mercher, 1 Mai 2019 am gyfnod o 3 diwrnod.

Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gogledd-orllewin fydd parhau i gyfeiriad y dwyrain i’r de-ddwyrain ar hyd yr C2169 hyd at y gyffordd â’r C2170. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a theithio tua’r de-orllewin ar hyd yr C2170 hyd at y gyffordd â’r B4302. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a theithio tua’r gogledd-orllewin ar hyd y B4302 hyd at y gyffordd â’r C2169. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a pharhau i gyfeiriad y de-ddwyrain er mwyn dychwelyd i fan sydd i’r gogledd-orllewin o’r man lle mae’r ffordd ar gau. I’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio dwyrain.

Gardd Gymunedol Llansadwrn Community Garden – Chwefror 2019

llansadwrn-gardeners-Feb-2019-planting
llansadwrn-gardeners-Feb-2019-planting

First planting

Digwyddodd y gwaith cyntaf yn Ardd Gymunedol Llansadwrn ar ddydd Sadwrn 2ail Chwefror.

Heriodd grŵp o wirfoddolwyr dewr dymheredd yn i agos i sero er mwyn torri drwy’r rhew a phlannu’r coed afalau cyntaf a chasgliad o eirlysiau a chlychau’r gog.

Y ddwy goeden blannon ni oedd ‘Pig yr Wydd’ – amrywiad lleol Llanwrda sy’n gwneud yn dda, a ‘Sunset’ sy’n gyltifar afal ddaeth fel eginblanhigyn o ‘Cox’s Orange Pippin.’

Digwydd ein sesiwn plannu nesaf ar ddydd Sadwrn 16eg Chwefror gan gychwyn o’r Ddarllenfa am 10.30am.

Os hoffech ymuno â ni, bydd croeso cynnes iawn, hyd yn oed dim ond i chi edrych.

Diolch i Goed Ddolau Hirion a chanolfan arddio ‘The Works’ am eu cefnogaeth.

Planting-snowdrops-in-the-cold

Planting snowdrops in the cold

Newyddion Gardd

Afal Tin-yr-Wydd

Afal Tin-yr-Wydd

Ers yr ymgynhoriad cymunedol ym mis Tachwedd bu’r gwirfoddolwyr sydd â’r cyfrifoldeb am sefydlu Gardd Gymunedol Llansadwrn wrthi’n ddyfal gan baratoi’r cyfansoddiad a’r polisïau, agor cyfrif banc, a threfnu yswiriant.

Yn ychwanegol, mae’r Ardd Gymunedol wedi derbyn rhodd hael oddi wrth Y Parchedig Vanessa Hope-Bell er cof am ei mab Joel, preswylydd Llansadwrn.

Fel canlyniad ar fore dydd Sadwrn Chwefror 2ail am 10.30am bydd y weithred wirioneddol gyntaf yn digwydd. Plennir dau fath o afalau, gan gynnwys ‘Tin yr Wydd’ – afal pobi cynnar o Langadog. Hefyd plennir bylbiau brodorol. Mae croeso cynnes iawn i bawb cymryd rhan, naill ai helpu neu ddod i edrych a sgwrsio yn unig.

Mae’r Ardd i bawb, felly peidiwch bod yn swil!

Ffilm Nadolig

Nightmare before Christmas Sinema Sadwrn

Gobeithio gallwch chi ymuno â ni yn nhafarn y Sexton’s ddydd Gwener 21 Rhagfyr am ddwy ffilm Nadolig.

Am 4pm – The Nightmare before Christmas

Ac am 7pm – Miracle on 34th Street (Rhagor o fanylion am y ffilmiau isod…)

Bydd mynediad i’r ddwy ffilm AM DDIM. Diolch yn fawr i bwyllgor Darllenfa Llansadwrn am gefnogi’r digwyddiad ac i Cliff yn y Sexton’s am y croeso.

Bydd swper ar gael gan Gardd Sadwrn hefyd. Bydd dewis o gŵn poeth organig gan gynnwys rhai llysieuol (gyda’r holl drimins), tsili Gardd Sadwrn gyda phwmpen wedi’i rhostio a ffa, gyda hufen sur neu salsa neu India corn, creision tortilla a chaws. Bydd dewis o blât mawr neu blât bach, yn dibynnu faint o chwant bwyd fydd arnoch chi.

Pwdin i’w gyhoeddi…

Y ffilmiau

4pm – The Nightmare before Christmas

Mae Tim Burton yn cyfuno’r Nadolig a Chalan Gaeaf mewn animeiddiad unigryw o 1993 sy’n iasol ac yn dwymgalon ar yr un pryd. Mae’r ffilm yn dilyn stori Jack Skellington, brenin Tre Calan Gaeaf, sy’n syrthio dryw borth hud i Dre’r Nadolig, ac yn penderfynu dathlu’r ŵyl, gan arwain at ganlyniadau dychrynllyd a difyr.

Hyd y ffilm 73 munud, Tystysgrif PG.

7pm-9pm Miracle on 34th Street!

Yn y clasur Nadoligaidd hwn, mae hen ddyn o’r enw Kris Kringle (Edmund Gwen) yn cymryd lle Siôn Corn yn siop Macy’s ar Ddiwrnod Diolchgarwch am fod y dyn a oedd i fod i wneud hynny wedi meddwi. Mae Kringle mor boblogaidd mae’n cael ei wahodd yn ôl yn gyson i’r siop yng nghanol Manhattan, ond mae cwsmeriaid a gweithwyr eraill y siop yn cael sioc pan fo Kringle yn dweud wrthynt mai ef yw’r Siôn Corn go iawn. Mae hynny’n arwain at achos llys i asesu ei iechyd meddwl, ac yn bwysicach fyth, a yw e’n dweud y gwir.

Hyd y ffilm 96 munud, Tystysgrif U.

CAU FFORDD DROS DRO: YR C2161, HEOL Y GELLI, LLANSADWRN, LLANWRDA

Mae cais wedi dod i law am gau dros dro yr C2161, Heol y Gelli, Llansadwrn, Llanwrda o bwynt 710 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â’r C2172 am bellter o 80 metr tua’r gogledd-ddwyrain.

Mae angen cau’r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd tra bydd Dŵr Cymru yn cysylltu pibell ddŵr newydd o ddydd Llun, 7 Ionawr, 2019 am gyfnod o 2 ddiwrnod.

Y ffordd arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gogledd-ddwyrain fydd mynd tua’r de-orllewin ar hyd yr C2161 hyd at y gyffordd â’r A40. Wrth y gyffordd, troi i’r chwith a theithio tua’r gogledd-ddwyrain ar hyd yr A40 hyd at y gyffordd â’r A482. Wrth y gyffordd, troi i’r chwith a theithio tua’r gogledd-orllewin ar hyd yr A482 hyd at y gyffordd â’r C2161. Wrth y gyffordd, troi i’r chwith a theithio tua’r de-orllewin ar hyd yr C2161 i ddychwelyd i fan sydd i’r gogledd-ddwyrain o’r man lle mae’r ffordd ar gau. I’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r de-orllewin.