Author: Lyndsey Maiden
Eiddo Gwag a heb breswyliaeth
Gofynnwyd i ni lunio rhestr o eiddo yn Sir Gaerfyrddin nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ac sy’n wag, ac sy’n cynnwys unedau diwydiannol, neuaddau cymunedol a swyddfeydd. Bwriad yr ymarfer yw sicrhau bod gennym restr lawn o’r lleoliadau fel bod modd i ni ymateb yn briodol petai angen at y dyfodol.
Ar hyn o bryd y cyfan yr ydym yn ei wneud yw datblygu rhestr o eiddo o’r fath a byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe bai modd darparu’r wybodaeth hon mor fuan a phosibl.
Dylid ymateb i Peter Edwards, Rheolwr Prisio drwy PEdwards@sirgar.gov.uk
Diolch ymlaen llaw am eich cymorth gyda’r ymholiad.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Cyfle newydd cyffrous – Pecynnau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Mae’n bleser gennym lansio ein cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – menter newydd sbon wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at greu, adfer a gwella cannoedd o gynefinoedd ledled y wlad.
Mae’r broses ymgeisio ar agor nawr i grwpiau a mudiadau cymunedol sy’n awyddus i helpu i gildroi dirywiad byd natur.
I’w gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl gymryd rhan, rydyn ni wedi dylunio detholiad o ‘becynnau’ wedi’u teilwra i wahanol grwpiau a sefydliadau. Mae pob pecyn, y mae ei gost wedi’i thalu ymlaen llaw, yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau eraill. Byddwn yn delio â’r archebion a’r danfoniadau, a bydd ein swyddogion prosiect hyd yn oed yn darparu cymorth ar lawr gwlad i’ch helpu i greu eich man newydd ar gyfer byd natur.
Mae ein pecynnau yn perthyn i dri chategori – cliciwch y dolenni isod am fwy o wybodaeth:
- Pecynnau dechreuol i gynghorau tref a chymuned (1 yr un) – dewiswch naill ai a) Gardd Pili Pala, b) Gardd Ffrwythau neu c) Gardd Bywyd Gwyllt. Darllen y canllawiau a’r Cwestiynau Cyffredin
- Pecynnau dechreuol i sefydliadau cymunedol (3 fesul sir) – dewiswch naill ai a) Gardd Pili Pala, b) Gardd Ffrwythau neu c) Gardd Bywyd Gwyllt. Darllen y canllawiau a’r Cwestiynau Cyffredin
- Pecynnau datblygu i sefydliadau cymunedol (3 fesul sir) – dewiswch naill ai a) Man tyfu bwyd, b) System draenio cynaliadwy neu c) Gardd Bywyd Gwyllt. Llwytho’r nodiadau canllaw i lawr
Mae’r broses ymgeisio’n un hawdd ac rydyn ni’n disgwyl llawer o ymgeiswyr, felly gwnewch gais cyn gynted â phosib! Dyddiad cau’r cylch ceisiadau cyntaf yw 12pm ddydd Gwener 6 Mawrth.
Cinio Mawr 3!
Cyfle arall i gymuned Llansadwrn rannu bwyd blasus a chwmni da CINIO MAWR LLANSADWRN 2019 Dydd Sadwrn 13eg Gorffennaf o 12.00 y.p. Cau Cymuned Llansadwrn
Croeso i bawb
Yr unig beth sydd eisiau i chi ei wneud yw dod ar y dydd gyda bwyd i’w rannu. Os medrwch ein cynorthwyo mewn unrhyw fodd, gwerthfawrogwn hynny’n fawr.
Rhowch wybod os gellwch helpu gyda:
- Arddurno’r babell;
- Gosod popeth i fyny / symud byrddau a chadeiriau;
- Arddurno bord;
- Parcio;
- Trefnu neu helpu gyda gweithgareddau ar y dydd;
- Cyfrannu i’r adloniant amser cinio;
- Tacluso pob dim ar ddiwedd y dydd.
RHAGLEN:
12.00y.p. Dewch â bwyd i’w rannu (a blodau am y ford os wyt ti’n gallu).
12.30y.p. Cinio & adloniant cerddorol – yn cynnwys Band Tref Llandeilo Band, Harmoni Tywi a cherddorion a pherfformwyr lleol.
3.00y.p. Mabolgampau a gweithgareddau i blant
4.00y.p. Helfa Drysor
5.30y.p. Tynnu Rhaf
8y.p. SINEMA SADWRN yn cyflwyno ‘The Jungle Book’ PG yn y babell. Mynediad AM DDIM hefyd BWYD STRYD i brynu & RAFFL yn y nos (i’w dynnu yn dilyn y ffilm)
A wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen i Trish Evans, Bellview, Llansadwrn, SA19 8LF neu anfon ebost at:
trish-evans@hotmail.co.uk erbyn Dydd Sadwrn 29ain Mehefin os hoffech ddod/yn gallu helpu.
DIOLCH!
Any information shared here will only be used for the Big Lunch organisation
Cronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Hoffwn eich hysbysu bod y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Mr Dafydd Llywelyn, yn lansio ei raglen gyllid lle mae grantiau o rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i grwpiau a sefydliadau ar draws yr Heddlu.
Mae’r Comisiynydd yn gwahodd ceisiadau oddi wrth sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, yn ogystal â’r sectorau cyhoeddus a phreifat, ar gyfer prosiectau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch a diogelwch cymunedau lleol ac mae hefyd yn annog sefydliadau i weithio ar y cyd ar hyn.
Byddwn yn ddiolchgar iawn o gael eich cefnogaeth i hyrwyddo’r cyfle hwn ar y cyfryngau cymdeithasol ac o fewn y cymunedau lleol yr ydych yn eu gwasanaethu. Os ydych yn gwybod am unrhyw grwpiau a fyddai’n elwa o’r cyllid hwn, rhowch wybod iddynt amdanynt.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw’r 24ain o Fai 2019.
I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.