Author: Lyndsey Maiden

Newyddion Diweddaraf Covid Sir Gaerfyrddin

Gan fod y sefyllfa yng Nghymru yn newid o ddydd i ddydd, mae Llywodraeth Cymru yn aml yn diweddaru ei rheolau a’i chanllawiau – rwy’n sylweddoli pa mor anodd yw hi i ddygymod â’r newidiadau amrywiol a chyflym, ond mae’n bwysig iawn i ni wneud hynny.  Mae’n siŵr eich bod yn gwybod bod llawer o gyngor, atebion i gwestiynau cyffredin a dolenni i’r ddeddfwriaeth lawn ar wefannau Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Un o’r prif faterion sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, lle mae angen atgyfnerthu’r neges, yw’r neges ynghylch pobl yn ymgynnull a digwyddiadau dan do.

Y rheol gyffredinol yw na allwch gwrdd yn gymdeithasol dan do â phobl nad ydynt yn eich aelwyd neu’ch aelwyd estynedig. Yn ogystal, o 14 Medi, mae’n rhaid cyfyngu ar y nifer a fydd yn cwrdd o dan do i 6 pherson (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) hyd yn oed o fewn eich aelwyd estynedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol mewn mannau fel tafarndai a bwytai ynghyd â chartrefi pobl.

Wrth gwrs, mae llawer o Gynghorau Tref a Chymuned yn rheoli ac yn berchen ar leoliadau cymdeithasol fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol, ac mae’n bwysig iawn bod pobl yn cael cyngor priodol ynghylch ailagor y safleoedd hyn a chyn ceisio trefnu digwyddiad yn un o’ch lleoliadau. Mae’r gyfraith yng Nghymru yn gosod cyfyngiadau ar bobl yn ymgynnull o dan do gydag eraill heb esgus rhesymol ac mae hyn fel arfer yn golygu  y dylai unrhyw weithgareddau sy’n cael eu cynnal yn eich lleoliadau gael esgus rhesymol dros wneud hynny.

Ni chaniateir i chi drefnu cwrdd â phobl y tu allan i’ch aelwyd neu’ch aelwyd estynedig i fynd i rywle dan do, megis siopau, caffis, bwytai, bariau neu dafarndai. Yn yr un modd, ni ddylech drefnu i blant fynd i fannau dan do gyda’i gilydd, fel sinemâu neu arcedau difyrrwch, os nad ydynt yn rhan o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.

Er bod cynulliadau o hyd at 30 o bobl yn cael eu caniatáu yn yr awyr agored, dylai oedolion a phlant barhau i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl nad ydynt yn eu haelwyd, neu eu haelwyd estynedig, lle bynnag ag y bo modd.

Gweler: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-adael-eich-cartref-gweld-pobl-eraill-coronafeirws

Rydych mewn sefyllfa dda iawn fel arweinwyr cymunedol i sicrhau bod y neges hon yn glir.

Efallai eich bod wedi gweld yn y cyfryngau bod ein swyddogion yn ymweld â lleoliadau ledled Sir Gaerfyrddin i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â mesurau Covid-19. Er eu bod yn hapus i helpu lle bynnag y gallant drwy gynnig cyngor a gwybodaeth, cyfrifoldeb y person sy’n gyfrifol am y safle yw sicrhau ei fod yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth a bod popeth mewn trefn. Fel yr uchod, mae ystod o ffynonellau gwybodaeth ar wefannau Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Sir.

Yn olaf, mae llawer ohonom fel arfer yn helpu i drefnu digwyddiadau cymunedol ar yr adeg hon o’r flwyddyn, cyn tymor y gaeaf. Yn Llanelli, rydym eisoes wedi gwneud penderfyniad i ganslo’r Carnifal Nadolig blynyddol – roedd hwn yn benderfyniad anodd, ond yr un cywir. Rwy’n siŵr y byddwch yn gweithredu’n ofalus, gan roi sylw i gyngor Llywodraeth Cymru ar ledaeniad y feirws yn y gymuned drwy gynulliadau mawr o bobl.

Cymorth i wella Cysylltedd band eang

Ydy eich cymuned yn gweld hi’n anodd i gael band eang cyflym? Os felly, mae’n bosib gall preswylwyr a busnesau fod yn gymwys i uwchraddio eu band eang.

Mae ymgyrch cronfa band eang y Llywodraeth, a lansiwyd yn Sir Gaerfyrddin ddoe, i helpu busnesau, gweithwyr a chymunedau cefn gwlad i fanteisio ar yr holl fanteision sy’n gysylltiedig â chysylltiadau Rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy.

Mae’r Llywodraeth yn cynnig hyd at £1,500 i drigolion a hyd at £3,500 i fusnesau gwledig i uwchraddio i fand eang gigabit. Bydd uwchraddio i fand eang gigabit yn golygu y bydd gan gartrefi a busnesau yn Sir Gaerfyrddin y cysylltiadau rhyngrwyd gorau.

Gan annog cymunedau i ddod ynghyd, gall trigolion a busnesau gyfuno eu diddordeb i gynyddu’r gronfa gyffredinol. Mae’r cofrestri ar agor tan 30 Medi 2020, ac mae trigolion cefn gwlad a pherchnogion busnesau yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys.

Bydd rhai safleoedd a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin hefyd yn gallu elwa ar gynllun talebau Llywodraeth Cymru, gan gymryd y cyllid posibl ar gyfer safleoedd unigol hyd at £3,000 a hyd at £7,000 ar gyfer busnesau.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y cyllid a ddarperir yn talu am y gost o osod y band eang newydd ar yr amod bod digon mewn prosiect.

Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech hyrwyddo hyn o fewn eich cymunedau.

I gael rhagor o fanylion am hyn, cysylltwch â cejenkins@carmarthenshire.gov.uk

Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda Newyddion

Sut a phryd y gallech chi wisgo gorchudd wyneb i amddiffyn y rhai o’ch cwmpas, os byddwch chi’n dewis gwisgo un.

Beth yw gorchudd wyneb?

Prif ddiben gorchudd wyneb yw diogelu pobl eraill drwy leihau’r posibilrwydd y bydd COVID-19 yn cael ei ‘drosglwyddo drwy’r awyr’. Nid yw’r person sy’n gwisgo’r gorchudd yn cael ei ddiogelu rhag cael ei heintio gan bobl eraill.

Beth yw masg wyneb?

Mae masg meddygol sy’n ffitio’n dda wedi’i gynllunio i ddiogelu’r person sy’n ei wisgo rhag haint. Mae masgiau o’r fath yn hanfodol ar gyfer staff rheng flaen sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad agos â chleifion sydd, neu a allai fod, wedi’u heintio â COVID-19.
O ddydd Llun 27 Gorffennaf 2020 bydd yn rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Ble a phryd y maeʼr gofyniad yn gymwys?

Mae’r gofyniad yn gymwys i bob cerbyd trafnidiaeth gyhoeddus caeedig gan gynnwys bysiau, coetsys, trenau, tramiau, fferïau ac awyrennau (lle byddant yn hedfan o Gymru neu’n glanio yng Nghymru). Mae hefyd yn gymwys i dacsis a gwasanaethau i dwristiaid, fel rheilffyrdd mynydd a bysiau gwibdeithiau.

Dylid gwisgo gorchuddion wyneb am y daith gyfan ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod angen eu gwisgo o’r foment y byddwch yn dal y bws, trên ac ati hyd nes y byddwch wedi disgyn. Diweddariadau diweddaraf: https://llyw.cymru/y-gofyniad-i-wisgo-gorchudd- wyneb-ar-drafnidiaeth-gyhoeddus-yng-nghymru

Ymweld â’r ysbyty yn ystod yr achos o coronafeirws: canllawiau wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru 15.07.2020

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut y gall y GIG gynorthwyo ymwelwyr i ymweld â’r ysbyty mewn ffordd ddiogel a gynlluniwyd yn ystod pandemig coronafeirws, ewch i: https://llyw.cymru/ymweld-ag-ysbytai-yn-ystod- y-coronafeirws-canllawiau

Darllenwch fwy yma

Diogelu Cymru gyda’n Gilydd.

Penawdau Newyddion

“Dod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr Haf a mis Medi”

Click to edit this placeholder text. Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit. Nullam elit erat, aliquet ac urna ac, viverra tincidunt dui.

Bydd 130,000 o bobl yn parhau i warchod eu hunain

Bydd bron i 130,000 o bobl yn derbyn llythyr oddi wrth Brif Swyddog Meddygol Cymru yr wythnos hon yn amlinellu’r cyngor diweddaraf er mwyn eu diogelu rhag y coronafeirws.

Diwrnod Amgylchedd y Byd – Arian newydd i natur yn helpu cymunedau i fraenaru’r tir ar gyfer y Gymru rydym am ei gweld ar ôl Covid-19

I ddathlu Diwrnod Amgylchedd y Byd, mae Llywodraeth Cymru yn creu dwy gronfa newydd fydd yn helpu pobl ledled y wlad i greu lleoedd ar gyfer natur yn eu cymunedau, unwaith y cawn fynd heibio’r pandemig hwn.

Staff mewn cartrefi gofal i gael £500 yn ychwanegol

Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd staff ceginau a staff domestig mewn cartrefi gofal yn cael y £500 ychwanegol a addawyd i staff gofal cymdeithasol.

Datganiad Ysgrifenedig: Coronafeirws (COVID-19) – Diweddariad Gwarchod – Gwarchod ar ôl 15 Mehefin

Yn wreiddiol, cynghorodd Prif Swyddog Meddygol Cymru’r rhai a oedd fwyaf agored i effeithiau mwyaf difrifol COVID 19 i’w gwarchod eu hunain am gyfnod o 12 wythnos. Daw’r cyfnod cychwynnol o 12 wythnos i ben ar 15 Mehefin ac mae Prif Swyddog Meddygol Cymru bellach wedi cadarnhau’r camau nesaf ar gyfer y grŵp hwn o bobl.

Addysg bellach: coronafeirws

Gwybodaeth am addysg bellach ac addysg uwch yn ystod y pandemig coronafeirws.

Parhau i gefnogi pobl ddigartref yn ystod pandemig y coronafeirws: canllawiau i awdurdodau lleol

Canllawiau i helpu sut i gefnogi a rhoi cartref i’r rheiny sy’n ddigartref ond sydd wedi cael llety yn ystod pandemig y coronafeirws.

Ap newydd yn hanfodol wrth ymweld â chanolfan ailgylchu

Mae Zipporah, cwmni digidol o Gaerdydd, wedi lansio ap trefnu ymweliadau ar-lein di-dâl i helpu Cyngor Bro Morgannwg i ailagor ei ganolfannau ailgylchu ac i leihau amserau aros i’r cyhoedd.

Pwyllgor Lles Anifeiliaid (AWC): barn ar faterion lles anifeiliaid sy’n gysylltiedig â coronafirws (COVID-19)

Adroddiad gan yr AWC ar effeithiau pandemig COVID-19 ar les anifeiliaid.

Cynllun Cefnogi’r Sector Llaeth yn agor ar gyfer ceisiadau

Cafwyd cadarnhâd heddiw gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, y bydd ceisiadau ar gyfer y cynllun newydd i roi cymorth i’r diwydiant llaeth yng Nghymru yn agor ar 18 Mehefin, i gefnogi’r ffermwyr yr effeithiwyd fwyaf arnynt gan yr amodau eithriadol diweddar o fewn y farchnad oherwydd COVID-19.

Datganiad Ysgrifenedig: Fframwaith Gweithredu COVID-19 GIG CYMRU – Cynlluniau’r Chwarter Cyntaf

Cyhoeddwyd Fframwaith Gweithredu GIG Cymru ar 6 Mai 2020. 

Teithio a thrafnidiaeth: cyngor

Gwybodaeth i weithwyr allweddol a phob teithio hanfodol arall.

Ein dealltwriaeth ddiweddaraf am COVID-19 mewn perthynas â phlant ac addysg

Mae’r ddogfen hon yn cynrychioli ein dealltwriaeth ddiweddaraf am COVID-19 mewn perthynas â phlant ac addysg.

Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19)

Data a’r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru.

Cymorth i ddarparwyr gofal plant: y coronafeirws (COVID-19)

Cynllun cymorth gofal plant, benthyciadau, grantiau a chefnogaeth i ddarparwyr gofal plant.

Canllawiau ar gyfer y gweithle i gyflogwyr a chyflogeion: COVID-19

Canllawiau i gyflogwyr a gweithwyrgadw’n ddiogel yn y gweithle yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Datganiad y Prif Swyddog Meddygol ar yr adolygiad 21 diwrnod: 28 Mai 2020

Cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch adolygiad 21 diwrnod cyfyngiadau’r coronafeirws gan Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol.

 

Cynadleddau i’r wasg dyddiol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cynhadledd i’r wasg am coronafeirws yn ddyddiol am 12.30pm, gyda chyfieithydd BSL. Mae modd gweld y cynadleddau yn fyw ar sianel Twitter @LlywodraethCym, BBC One Wales ac S4C. 

 

Astudiaeth Symptomau COVID

Helpwch ni i ymladd coronafeirws trwy adrodd ar eich iechyd yn ddyddiol, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn.

Gallwch chi helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws drwy gwblhau arolwg iechyd dyddiol ar yr ap Astudiaeth Symptomau COVID. Mae’r ap hwn yn addas ar gyfer pawb, nid i’r unigolion sydd â symptomau yn unig.

Bydd yr app yn ein helpu i ddeall symptomau a lledaeniad COVID-19. Drwy ateb rhai cwestiynau cyflym, gallwch chi ein helpu i gynllunio ein hymateb i coronafeirws.

Ni fyddwn yn rhannu eich atebion y tu hwnt i’r GIG a sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r GIG i ymateb i’r coronafeirws.

 

Profi, olrhain a diogelu

Mae ymgyrch ar y gweill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr allweddol o strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru. Mae’r wybodaeth ddiweddara am y strategaeth, gan gynnwys canllawiau i gyflogwyr, ar y wefan.  (https://gov.wales/test-trace-protect-coronavirus).Mae deunydd fideo wedi cynhyrchu i ddefnyddio mewn ymgyrchoedd ac i rhanddeiliaid rhannu ar ei sianelu. Mae modd i chi lawrlwytho’r deunydd digidol fan hyn a byddem yn gwerthfawrogi os fyddech yn rhannu ar eich sianelu cymdeithasol, er mwyn rhannu gwybodaeth am y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.  

 

Gwybodaeth

 

Addysg a gofal plant

Canllawiau ar coronafeirws i rieni, pawb sy’n gweithio mewn addysg a darparwyr gofal plant

 

Busnesau a chyflogwyr

Cymorth i helpu busnesau a sefydliadau’r trydydd sector yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws

 

Cyngor iechyd

Aros gartref, hunanynysu, cael cefnogaeth fel person eithriadol o fregus

 

Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol

Canllawiau’r coronafeirws ar gyfer y GIG a phobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, cymunedol a phreswyl

 

Tai

Canllawiau i landlordiaid, cartrefi mewn parciau (symudol) a gwasanaethau cysgu allan yn ystod y pandemig coronafeirws

 

Teithio

Cyngor am y coronafeirws i bobl sy’n dod nôl o wlad dramor neu’n bwriadu teithio

 

Gwirfoddoli (trydydd sector)

Gwirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws, cymorth i’r trydydd sector

 

Gwasanaethau cymunedol

Cynllunio, tân, cam-drin domestig a thrais rhywiol

 

Swyddi, sgiliau a chefnogaeth ariannol

Help gyda budd-daliadau, i aros yn y gwaith a chael sgiliau newydd

 

Deunydd marchnata digidol

Deunydd marchnata gan gynnwys posteri a dogfennau hygyrch.

 

Dolenni defnyddiol

Llywodraeth Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Busnes Cymru

Edrych ar ol ein gilydd

Gwirfoddoli Cymru