Author: Lyndsey Maiden

Galwad Agored – Uno’ch Galwad Agored 

Oes gennych chi: 

• Syniad am brofiad bwyta cymunedol (neu ydych chi’n rhedeg un yn barod)? 

• Ydych chi eisiau dod â phobl at ei gilydd trwy goginio, bwyta a rhannu bwyd lleol er mwyn cefnogi cymunedau gwledig? 

• Ydych chi eisiau cefnogaeth i greu cyfleoedd cymdeithasol, llon sy’n ymwneud â bwyd yn eich ardal leol? 

Rydym yn gwahodd unigolion a sefydliadau yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan mewn prosiect peilot newydd – i brofi pecyn cymorth creadigol ar ymgynghori cymunedol ac yna cael cymorth mentora wedi’i deilwra er mwyn sefydlu’r prosiect. Rydym ni’n awyddus i weld pa gymorth all eich helpu i ddechrau rhywbeth gwledig neu wella’r hyn rydych yn ei wneud ar hyn o bryd er mwyn cyrraedd ardaloedd gwledig. 

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw: 5yp Dydd Sul 25 Ionawr 

Cliciwch y ddolen ar waelod y ddogfen i fynegi eich diddordeb; Cysylltwch â Amie Andrews: ama108@aber.ac.uk

Neu cysylltwch â chydlynydd eich partneriaeth bwyd leol i gael help gyda’r cais neu i gysylltu â sefydliadau eraill: 

• Sir Gâr: Augusta Lewis augusta@farmgarden.org.uk

Uno’ch Cymuned Trwy Fwyd! / Bring Your Community Together Through Food!  – Fill out form

Cyngor Cymuned Llansadwrn Community Council

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig.  Rhaid bod yn 18 oed neu hun ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

(a)        wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod, neu

(b)        yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod, neu

(c)        wedi bod a’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod, neu

(d)        rydych wedi byw yn y Gymuned, neu of fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.

 Cysylltwch ag unrhyw aelod o’r Cyngor Cymuned neu anfon e-bost at y Clerc:

joywaters@hotmail.co.uk

Mae Festri Venture yn croesawu pawb

 Mae’r festri Eglwys Llansadwrn nawr ar agor ar Ddydd Llun rhwng 3 –5  

Y syniad yw i ddarparu’r cyfle lle gall pobl Llansadwrn gwrdd â’i gilydd yn anffurfiol, yn arbennig newydd ddyfodiaid sy ddim wedi cael y cyfle i gwrdd â phobl leol eto.  

Bydd dysgliad o de neu goffi ar gael, hefyd planhigion a llyfrau clawr papur i’w cyfnewid neu rannu, a lle diogel i blant bach chwarae.  

Galwch mewn nawr ac yn y man, hyd yn oed am amser byr – byddwn ni’n gwerthfawrogi’ch presenoldeb yn fawr.   

Ac os oes gyda chi syniadau sut gall y fenter hon ddatblygu ymhellach,  byddai croeso i chi ddod  a’u rhannu nhw hefyd.                                                                                                   

DEWCH I MEWN!

Digwyddiadau plannu i wirfoddolwyr yng Nghoedwig Abermarlais, Brownhill.

Yn dilyn ein diweddariad ar 17 Ionawr, rwy’n cysylltu i roi gwybod i chi am y digwyddiadau plannu i wirfoddolwyr y byddwn yn eu cynnal ddiwedd mis Mawrth yng Nghoedwig Abermalais.

Bydd y digwyddiadau plannu yn gyfle i drigolion lleol ddod i blannu coeden a helpu i greu coetir newydd er cof am anwyliaid a gollwyd yn anffodus oherwydd Covid-19 ac adeiladu gofod cadwraeth gwerthfawr i’r gymuned.

Bydd pedair sesiwn blannu i gyd, y bydd Tir Coed yn eu cynnal ar ein rhan.

Bydd y sesiynau ar 18 a 25 Mawrth ar agor i’r cyhoedd.  Mae manylion am sut i gofrestru ynghlwm.

Mae’r sesiynau ar 22 a 23 Mawrth yn cael eu trefnu gydag ysgolion lleol a grwpiau addysgol.

Hoffem estyn gwahoddiad i chi ymuno â ni ar 23 Mawrth am tua 10.30 am, i blannu coeden yn y coetir newydd.

Bydd hwn yn ddigwyddiad anffurfiol lle bydd tîm CNC a rhanddeiliaid allweddol yn ymgasglu er mwyn cael cyfle i fod yn rhan o’r gwaith o greu’r coetir newydd. Rhowch wybod i mi os hoffech ymuno â ni a bydd gennym raw yn barod ar eich cyfer

Y coetir coffa yn Brownhill – Y Wybodaeth ddiweddaraf

Y coetir coffa yn Brownhill – Y Wybodaeth ddiweddaraf

Yn dilyn fy ngohebiaeth flaenorol ar 22 Mehefin, rwy’n ysgrifennu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynlluniau ar gyfer y coetir coffa yn Brownhill, yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.

Diolch i chi am gymryd yr amser i rannu eich adborth gyda ni drwy ein hymgynghoriad cyhoeddus a’r digwyddiadau galw heibio yn ystod ym mis Mawrth a mis Mehefin y llynedd. Roeddem yn falch o allu cysylltu â chymaint o drigolion a chael y cyfle i wrando ar farn a phryderon pobl ar y cynigion ar gyfer y tir yn Brownhill.

Ar ôl gwrando’n ofalus ar yr adborth a gawsom, rydym yn falch o allu rhannu’r dyluniadau ar gyfer y safle a rhoi gwybod i chi am y camau nesaf.

Mae’r safle bellach wedi’i rannu’n dri phrif faes, gyda phob un yn blaenoriaethu gwahanol amcanion. Bydd ardal gadwraeth fel bod cyfle i fywyd gwyllt ffynnu, ardal o goetir ar gyfer coffau sy’n gwbl hygyrch, ac ardal dyfu i ddarparu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd, a choed a natur.

Rydym wedi nodi crynodeb o’n cynlluniau isod, gan amlinellu sut y byddwn yn cyflawni’r amcanion ar gyfer pob maes, gan ystyried yr ymatebion a gawsom drwy ein hymgynghoriad:

Ardal un – Ardal gadwraeth 

Prif amcanion 

Ein prif amcan ar gyfer y man cadwraeth yw gwella pwyntiau mynediad er mwyn sicrhau bod y cyhoedd a physgotwyr lleol yn gallu cael mynediad diogel i’r afon a chreu coetir glannau afon a choetir gwlyb er budd bioamrywiaeth a hyrwyddo gorlifdir actif iach. 

Sut byddwn yn cyflawni hyn: 

Ychydig iawn o ymyrraeth fydd angen ar gyfer ein cynlluniau cychwynnol ar gyfer y rhan hon o’r safle. Bydd yr ardal yn cael datblygu’n goetir glan yr afon ar gyfer hybu prosesau naturiol, fel sydd wedi bod yn wir ers deng mlynedd. Byddwn yn gwella mynediad cyhoeddus drwy adfer pont droed a sefydlu llwybr cerdded anffurfiol a fydd yn galluogi pobl a physgotwyr i gael mynediad diogel i lan yr afon a mwynhau’r bywyd gwyllt. Bydd arwyddion yn cael eu gosod i roi gwybodaeth i bobl ar sut y gallan nhw ddefnyddio’r ardal yn ddiogel yn ogystal â helpu i ofalu am yr ardal. Ymhen peth amser, byddwn hefyd yn archwilio cyfleoedd i wneud gwaith adfer ar y rhan o’r afon sydd wedi’i throi’n fwy o gamlas, a hynny er mwyn ei niwtraleiddio a’i gwella fel cynefin ar gyfer pysgod a thrychfilod.

Gellir gweld manylion llawn gan gynnwys mapiau a lluniadau o’r ardal gadwraeth trwy ymweld â safle’r prosiect ar Citizen Space o’r 19fed o Ionawr.

Ardal dau – Ardal y coetir

Prif amcanion 

Ein prif amcan ar gyfer ardal y coetir yw creu coetir llydanddail brodorol. Bydd hyn yn cynyddu amrywiaeth cynefinoedd ac yn darparu man gwyrdd y gall pobl ddod iddo i fyfyrio a chofio anwyliaid.

Sut byddwn yn cyflawni hyn:

Mae’r coetir wedi’i ddylunio i wella nodweddion presennol y safle a byddwn yn cadw man agored sylweddol i ddarparu cynefin agored pwysig. Er mwyn sicrhau bod y coetir newydd yn gallu gwrthsefyll bygythiadau o blâu a chlefydau a newid yn yr hinsawdd, byddwn yn plannu amrywiaeth eang o rywogaethau a llwyni, gan gynnwys Derw, Oestrwydd, Pisgwydd dail bach, Cyll ac Afalau surion.

Er mwyn helpu i wella mynediad cyhoeddus a sicrhau diogelwch ymwelwyr i’r safle, bydd maes parcio yn cael ei adeiladu. Bydd mynedfeydd presennol i’r caeau yn cael eu huwchraddio, a gosodir pontydd troed bychan er mwyn creu teithiau cylchol o amgylch yr ardal.

Bydd meinciau hefyd yn cael eu gosod ger y fynedfa a bydd coed ffrwythau a chnau yn cael eu plannu i greu nodwedd flodeuo yn y Gwanwyn a darparu ffrwythau i ymwelwyr a’r gymuned eu casglu. Rydyn ni hefyd wedi bod yn awyddus i gael enw priodol ar gyfer y coetir coffa. Gan fod y tir yn arfer bod yn rhan o Ystad Abermarlais a bod Afon Marlais yn ei groesi, caiff y coetir ei alw’n ‘Coedwig Abermarlais’.

Gellir gweld manylion llawn gan gynnwys mapiau a lluniadau o’r ardal gadwraeth trwy ymweld â safle’r prosiect ar Citizen Space o’r 19fed o Ionawr.

Ardal tri – Yr Ardal dyfu 

Prif amcanion 

Ein prif amcan ar gyfer yr Ardal dyfu oedd sefydlu partneriaeth i’n galluogi i ddarparu cyfleoedd cynaliadwy i dyfu bwyd, coed a hybu natur a gwella ansawdd dŵr, iechyd y pridd ac amrywiaeth cynefinoedd a rhywogaethau.

Sut byddwn yn cyflawni hyn:

Gwnaethom gyflwyno nifer o ddewisiadau ar gyfer cynyddu gorchudd o goed ochr yn ochr â pharhad chynhyrchu amaethyddol parhaus gan ofyn i’r ymgynghorai drafod rhinweddau’r hyn yr hoffent fwyaf ei weld yn cymryd lle. Cafodd yr awgrym o barhad cynhyrchu amaethyddol ochr yn ochr â mwy o orchudd coed dderbyniad da.

Y cynllun ar gyfer yr ardal hon yw cynyddu’r gorchudd coed i tua 20%, byddwn yn gwneud hyn trwy ledu’r cloddiau presennol ac ailsefydlu gwrychoedd ar hyd ffiniau caeau hanesyddol sydd wedi’u colli. Byddwn hefyd yn plannu ar hyd ymyl y cae ger y coetir presennol ac yn sefydlu Clystyrau o goed yn y caeau a fydd yn y dyfodol yn creu cynefin o fath o borfa goed.  Bydd y planhigion newydd yn cael ei ffensio i ganiatáu i bori barhau ar y rhan fwyaf o’r tir, a bydd y tir yn cael ei reoli yn unol â chyfarwyddiadau er budd bywyd gwyllt, iechyd y pridd, ac ansawdd dŵr.

Yn y tymor hwy, byddwn yn ceisio sefydlu partneriaeth ar gyfer rheolaeth hirdymor o’r ardal hon mewn cydweithrediad â fferm neu ffermydd lleol. Bydd hyn yn cynnwys cyd-ddylunio’r ardal ymhellach gyda’r potensial ar gyfer mwy o blannu neu gnydau eraill ar gyfer y glaswelltir sydd wedi’i wella a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Gellir gweld manylion llawn gan gynnwys mapiau a lluniadau o’r ardal gadwraeth trwy ymweld â safle’r prosiect ar Citizen Space o’r 19fed o Ionawr.

Camau nesaf 

Wrth greu coetir newydd, rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar weithio’n agos gyda chymunedau lleol a rhanddeiliaid i roi’r cyfle iddyn nhw fod yn rhan o’r cynlluniau a rhannu eu syniadau gyda ni. Rydym yn awyddus i barhau â’r cysylltiad rhagweithiol hwn yn Brownhill wrth i’r safle ddatblygu. 

Yn y dyfodol agos, byddwn yn creu cyfleoedd i wirfoddolwyr ein helpu i baratoi a phlannu coed ar y safle. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y dyddiadau a’r amseroedd ar gyfer y rhain atoch maes o law.