CYNGOR CYMUNED LLANSADWRN
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llansadwrn a gynhaliwyd yn yr Ystafell Ddarllen, Llansadwrn ar nos Fercher 2ail Ionawr, 2019.
Presennol:
Cadeirydd: Cyng. J. M. Evans
Cynghorwyr: John Couch, C. Hudson, C. M. Jones
Cynghorydd Sir Arwel Davies
1. Ymddiheuriadau
Dim.
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion yn codi nad oeddent wedi’u cynnwys ar yr agenda.
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir ar gywiro’r canlynol:
Eithriwyd enw’r Cyng. L. Jones o’r rhestr bresennol.
3. Datgan Diddordeb
Dim.
4. Materion yn codi o’r cofnodion
4.2 Ystafell Ddarllen Llansadwrn
Mae copi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 12fed Tachwedd, 2019 wedi dod i law. Derbyniwyd llythyr hefyd ynghylch atgyweiriadau i’r Gofeb. Cytunwyd nad yw Cyngor Cymuned Llansadwrn yn gyfrifol am unrhyw waith a wneir. Dosbarthwyd copïau dwyieithog o gyfansoddiad yr Ystafell Ddarllen.
8 (c) Cyfyngiadau Cyflymder
Dim i’w adrodd.
Cyffordd Brownhill
Nid oedd unrhyw gysylltiad wedi’i wneud gyda’r perchnogion. Cytunodd y Cynghorydd J. Couch I wneud ymholiadau i ddod o hyd i’w rhif ffôn cartref, gan eu bod yn byw tramor ac yn ymweld â Llansadwrn ar wahanol adegau o’r flwyddyn.
8 (1) Ardal Chwarae Llansadwrn
Dim ond rhan o’r berth o amgylch yr Ardal Chwarae a dorrwyd gan y tirfeddianwyr newydd, y Clerc I wneud ymholiadau ynghylch torri’r coed sy’n weddill. Cynhaliwyd Asesiad Risg o’r Ardal Chwarae yn flaenorol a dywedodd yr arolygydd y dylid archwilio’r offer yn fisol, hyn i’w drafod ymhellach.
8 (iii) Gwefan
Gwahoddwyd aelod o We Dig Media I fynych cyfarfod mis Mawrth.
Diffibiriliwr
Wrth ddychwelyd y llythyron o gefnogaeth oddi wrth “Awards for All” nodwyd “prosiect i ddarparu diffribiliwr bellach yn llai tebygol o gael ei hariannu gan fod y rhaglen yn gystadleuol iawn, rhaid iddynt ymdrechu am ofynion mor gryf â phrosiectau eraill. Anfonwyd cais am arian at Williams Brownhill CIO.
8 (2) Materion Priffyrdd
Roedd tyllau yn parhau i fod yn broblem, er bod rhai wedi’u llenwi; Roedd problemau ger Cwm Mynydd Bach gyda’r suddo yn y ddaear.
Rhoddwyd manylion i bawb ynglŷn â chau’r heol er mwyn i’r Bwrdd Dwr gwneud gwaith cynnal a chadw.
Gardd Gymunedol
Cynhaliwyd cyfarfod a etholwyd swyddogion. Copïau o’r cyfansoddiad, “Datganiad o fwriad” a manylion cytundeb digontract wedi dod i law. Anfonir copïau at aelodau’r Cyngor erbyn y cyfarfod nesaf. Gofynnwyd am denantiaeth o 5 mlynedd, trafodwyd a chytunwyd cynnig tenantiaeth o 10 mlynedd.
Golau ar gyfer y Cae Cymunedol
Derbyniwyd pris y gwaith oddi wrth Cyngor Sir Caerfyrddin. “Braced new 16 Watt LED” I weithredu rhan nos, gan gynnwys darparu cyflenwad ychwanegol ar bolyn – £604.83 + T.A.W. Roeddent hefyd yn amgáu Cynllun ynglŷn â’r lleoliad. Cyfrifoldeb y Cyngor Cymuned yw sicrhau bod trigolion yn cael eu hymgynghori’n briodol cyn gwneud penderfyniad. Trafodwyd a chytunwyd gofyn am bris ar gyfer golau symudol dewisol. Os byddwn yn mynd yn ei flaen gyda’r gwaith byddai’r gost yn cael ei ychwanegu at ein cyfrif goleuadau troedffordd a byddai’r Cyngor Cymuned yn gyfrifol am unrhyw cynnal a chadw yn y dyfodol.
Cyfethol aelod newydd
Rhoddwyd hysbysebion o amgylch y pentref, hefyd roedd rhaid hysbysebu yn y papur lleol. Roedd un person wedi dangos diddordeb mewn cael eu cyfethol. Hyn i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.
5. Gohebiaeth
(a) Cyngor Sir Caerfyrddin – ymgynghoriad E/38200 – Adeiladu ar dir y tu ôl I Heddfryn, Llansadwrn.
(b) LLCC – swm priodol o dan A137 ar gyfer 2019/2020 yw £8.12 fesul etholwr.
(c) Un Llais Cymru
Materion rheoli traffig Bannau Brycheiniog
Cysylltu Cymunedau yng Nghymru
Cylchlythyr Comisiynydd yr Heddlu
LLCC – pecyn adnoddau ar lein ar gyfer Cynghorau Cymuned
(ch) LLCC – Y newyddion diweddaraf am amrywiaeth y sector a’r cymunedau’r maent yn eu gwasanaethu.
(d) Ymddiriedolaeth Cancr – cais am rodd
6. Adroddiadau
Paratowyd ymgynghoriad Cyllideb Cyngor Sir Caerfyrddin, gwybodaeth i’w cael a’r lein.
7. Taliadau a Rhoddion
Taliadau
Cyflog y Clerc – £200.00
Treuliau’r Clerc – £79,36
C. a Th. – £50.00
Aelodaeth Un Llais Cymru (2018/2019) – £66.00
Derbyniwyd taliad Wayleave o £55.69 oddi wrth Western Power. Trafodwyd a chytunwyd gan mai dim ond un taliad blynyddol ni yn ei dderbyn yn hytrach na anfon siec y gellid ei dalu’n uniongyrchol i’n Cyfrif.
(a) Arwyddo adroddiadau incwm a gwariant chwarterol/datganiadau banc
Y rhain i’w llofnodi mis Chwefror.
(b) Cyllideb 2019/2020
Dosbarthwyd copïau.
(c) Praesept
Trafodwyd a chytunwyd bod y praesept yn parhau fel 2018/2019 – £6,000.00 Llofnododd y Cadeirydd y ffurflen briodol.
Derbyniwyd taliad praesept of £2,000.00 ar gyfer chwarter mis Rhagfyr.
8. Unrhyw fusnes arall
Torri glaswellt y Cae Cymuned
Trafodwyd bod problem gyda thorri glaswellt y Cae Cymunedol ar gyfer 2018, byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach ar ôl derbyn y gwaith papur.
9. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Fercher 6 Chwefror 2019.