CYNGOR CYMUNED LLANSADWRN
Cofnodion cyfarfod Cymuned Llansadwrn a gynhaliwyd yn yr Ystafell Ddarllen, Llansadwrn, nos Fercher 6ed Gorffennaf, 2022
Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd C. Jones
Cynghorwyr: T. Evans, C. Eady
Cynghorydd Sir A. Davies
1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd L. Jones, Cynghorydd C. Powell, Cynghorydd J. Evans
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion nad oeddent wedi’u cynnwys ar y Rhaglen
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir, ar ôl cywiro’r canlynol:
Aelodau oedd yn bresennol: Dylid enwi J. Evans fel “gwyliwr”
3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd T. Evans – Ystafell Ddarllen, Gardd Gymunedol Llansadwrn
4. Materion yn codi o’r cofnodion:
4.2 Ystafell Ddarllen Llansadwrn
Roedd popeth wedi ei drefnu ar gyfer diwrnod agored yn y Ddarllenfa, a gynhelir rhwng 10.00 a.m. a 2.00 p.m. Gwahoddwyd y Cynghorydd C. Eady i ymuno â Phwyllgor yr Ystafell Ddarllen ac roedd hi wedi derbyn. Roedd y Clerc wedi derbyn copi o’r Fantolen er mwyn cwblhau’r gwaith papur ar gyfer y Comisiwn Elusennau. Roedd swyddogion wedi’u hethol a byddai trysorydd yn cael ei gadarnhau yn y cyfarfod nesaf.
Cyffordd Brownhill
Byddai’r gyllideb yn cael ei diweddaru yng nghyfarfod mis Medi, a bydd costau’n cael eu hychwanegu at y gyllideb.
8 (1) Cornel Chwarae Llansadwrn
Roedd y Cynghorydd C. Eady wedi cyfarfod â’r arolygydd o Sutcliffe Play Equipment ar y safle a byddai’n anfon adroddiad ysgrifenedig. Angen torri’r berth o gwmpas yr cornel chwarae, cysylltwch â Colin Darman i wneud y gwaith.
Y tai sy’n cael eu hadeiladu yn Heddfryn, drws nesaf i’r Lle Chwarae, y Clerc i gysylltu gyda’r adeiladwyr i osod arwyddion o amgylch yr ardal yn dweud bod gwaith yn cael ei wneud.
8 (iii) Gwefan
Lyndsey Maiden i fynychu’r cyfarfod nesaf.
8 (2) Materion Priffyrdd
Dim byd newydd i’w adrodd.
Blaenoriaethu llwybrau cyhoeddus
Bydd hyn yn cael ei drafod gyda’r Cynghorydd L. Rowlands yn y cyfarfod nesaf.
Trafodwyd yn fyr efallai y gellid cynhyrchu taflen yn y dyfodol yn rhoi manylion am lwybrau cyhoeddus yr ardal gan annog ymwelwyr i’r pentref.
8 (a) Gardd Gymunedol Llansadwrn
Ni chynhaliwyd cyfarfodydd
Dathliadau Jiwbilî
Bu’r digwyddiad yn llwyddiant mawr a diolchwyd unwaith eto i’r Cynghorydd C. Eady am ei holl waith.
Ciosg Ffôn Coch
Hyn i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.
Dodrefn Cae Cymuned
Hyn i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.
6 (4) Cyfethol
Roedd lle gwag ar gyfer aelod pellach, rhybudd i’w osod yn Postdatum yn y dyfodol agos.
8 (6) Goryrru drwy’r pentref
Dylid gosod cwynion am oryrru ar wefan “Gan Bwyll”.
5. Gohebiaeth
(i) Cyngor Sir Caerfyrddin – Ymgynghoriad cynllunio PL/04109 – porth storio ceir dau gerbyd – Stablau Dan yr Allt, Llansadwrn
(ii) Cyngor Sir Caerfyrddin – Ymgynghoriad cynllunio PL/04165 – strwythur to newydd – Fferm Cwm Sidan, Talyllychau
(iii) Ras Feicio Merched – cau ffyrdd
(iv) Llunio dyfodol Cymru
(v) Wythnos Natur Cymru
(vi) Cyllid Coedwig Genedlaethol Cymru
(vii) Hyfforddiant Cod Ymddygiad
(viii) Cyngor Sir Caerfyrddin – newyddion diweddaraf
(ix) Grantiau Cymunedol Gwydn – CNC
(x) CDLl Diwygiedig – Cyngor Sir Caerfyrddin
6. Adroddiadau
(a) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(1) Ward Cilycwm – torri gwair
(2) Cinio ysgol am ddim
(3) Gwisg Ysgol
(4) Arolwg Trigolion Sir Gaerfyrddin (cerdyn gyda manylion App wedi’i roi i bawb)
(5) Ffair Swyddi – Parc y Scarlets yfory
(6) Academi Gofal – ceisiadau gwaith cymdeithasol – gwaith ar gyfer gradd
(b) Adroddiad Cyswllt Cornwallis
Yn absennol o’r cyfarfod.
7. Taliadau
Cyflog Clerc – £554.00 (cyfieithiadau, post, rhyngrwyd a ffôn)
CThEM – £122.00
Rhoddion
Dim
Diweddariad archwilio
Roedd yr Archwiliad gorffenedig wedi’i anfon i’r Swyddfa Archwilio, byddai gan Gyngor Cymuned Llansadwrn Archwiliad llawn 2021/2022.
Taliadau IRP
Rhoddwyd manylion i bob aelod
(a) Llofnodi adroddiadau incwm a gwariant chwarterol/datganiadau banc
Y rhain i’w harwyddo nesaf yng nghyfarfod mis Medi
(b) Cyllid 2022/2023
I’w ddiweddaru yng nghyfarfod mis Medi
(c) Llofnod ychwanegol
Mandad i’w lofnodi yng nghyfarfod mis Medi.
(d) Pecyn Cymorth Cyllid a Llywodraethu – Swyddfa Archwilio Cymru
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys dwy ran:-
Rhan 1: Y gwiriad iechyd
Mae’r gwiriad iechyd wedi’i gynllunio i’w gwblhau gan y clerc, gan weithio gyda’r cadeirydd neu grŵp bach o aelodau fel y bo’n briodol, i asesu a oes trefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol sylfaenol, polisïau ac ati yn eu lle, amlygu unrhyw gamau sydd angen eu cymryd, ac adrodd yn ôl i’r cyngor llawn neu bwyllgor dynodedig.
Rhan 2: Yr hunanasesiad
Bydd yr hunanasesiad yn galluogi cynghorwyr i ddefnyddio canfyddiadau Rhan 1, a mathau eraill o dystiolaeth sydd ar gael, i fyfyrio’n ddyfnach ar sut mae’r cyngor yn gweithredu, yn rheoli ei gyllid ac yn llywodraethu ei hun.
Copi o’r Pecyn Cymorth i’w anfon at bob aelod. Y Cadeirydd a’r Clerc i gwblhau Rhan 1.
9. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cyfarfod nesaf i’w gynnal Nos Fercher 7fed Medi, 2022.