Cofnodion Mehefin

CYNGOR CYMUNED LLANWRDA

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd am 7.00 p.m. yn Neuadd y Pentref, Llanwrda, nos Fercher 22ain Mehefin, 2022.

Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd J. Thompson
Cynghorwyr: R. Jones, B. Haworth, Arwel Davies
Cynghorydd Sir Arwel Davies

1. Ymddiheuriadau
Pawb yn bresennol.

2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Mai, 2022
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.

3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd B. Haworth – Ffordd i Orsaf Llanwrda
Cynghorydd Sir Arwel Davies – Cornwallis

4. Materion yn codi o’r cofnodion:

9 (a) Lle Chwarae
Roedd Wicksteed wedi rhoi dyfynbris o £2,500.00 ar gyfer yr arllwysiad gwlyb yn y Lle Chwarae, ac wedi cynghori’r Cyngor Cymuned i gysylltu â chwmni lleol i wneud y gwaith gan y byddai’n costio llawer llai. Roedd y Clerc wedi cysylltu â Adventure Playgrounds, Pont-y-clun ac roeddent wedi rhoi pris o £900.00 ynghyd â T.A.W. Trafodwyd a derbyniwyd hyn. Unwaith y bydd y gwaith wedi ei wneud y Clerc i gysylltu â Wicksteed i drefnu archwiliad blynyddol o’r Lle Chwarae. Roedd y Cynghorydd B. Haworth yn cynnal archwiliad misol o’r offer chwarae.

9 (2) Llwybrau Cyhoeddus – blaenoriaethu
Ni dderbyniwyd unrhyw ddiweddariadau pellach gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus
Roedd Jason Lawday wedi cytuno i gyfarfod safle i drafod clirio’r llwybrau cyhoeddus. Y Cynghorydd R. Jones, DHL Gwynne Fencing a Jason Lawday i drefnu cyfarfod safle.

9 (x) Goleuadau ar y Ffordd i Orsaf Llanwrda
Roedd cyfarfod safle wedi’i gynnal gyda’r Cynghorydd B. Haworth, Cyngor Sir Caerfyrddin, a’r Cynghorydd Sir A. Davies. Yn dilyn trafodaeth faith, cytunwyd bod angen ymgynghoriad priodol ar hyn ac y byddai’n cael ei dynnu oddi ar yr Agenda.

9 (xi) Cyfethol Aelodau
Trafodwyd a chytunwyd bod y Cynghorydd Sir Arwel Davies yn cael ei gyfethol yn Gynghorydd Cymuned. Roedd un person lleol wedi dangos diddordeb, y Clerc a’r Cynghorydd R. Jones i holi a oedd yn parhau i fod â diddordeb mewn cael ei gyfethol.

5. Adroddiadau:

5.1 (b) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
Roedd Ymylon Glaswellt yn cael eu torri’r wythnos nesaf.

5.2 (b) Adroddiad Cyswllt Cornwallis
Ni chynhaliwyd cyfarfodydd.

5.3 (b) Adroddiad Cyswllt yr Heddlu
Roedd cyfarfodydd bellach yn cael eu trefnu a gwahoddwyd Cynghorwyr Sir i fynychu a Chlercod Cynghorau Cymuned.

6. Gohebiaeth
(i) Grant Lleoedd Lleol i Natur
(ii) Hyfforddiant Cod Ymddygiad
(iii) Cronfa Ffyniant Shand (CSC)
(iv) Pwyllgor Craffu Cyngor Sir Caerfyrddin
(v) Cefnogi Wcráin – Cyngor Sir Caerfyrddin
(vi) Cyfarfod ardal Un Llais Cymru
(vii) Cyllid Coedwig Genedlaethol Cymru
(viii) Arweiniad Etholiadau Lleol
(ix) Llunio Dyfodol Cymru
(x) Wythnos Natur Cymru

7. Taliadau

Cyflog y Clerc (a chyfieithiadau £90.00, Postio £30.60, Band Eang/ffôn) – £458.60
Trafodwyd a chytunwyd i dalu’r isafswm cyflog o £10.00 yr awr i’r Clerc am 4 awr yr wythnos o waith.
CThEM – £98.00
HB Enoch ac Owen (cyflogres) – £87.30
We Dig Media – £230.40
DHL Gwynne Fencing (Clirio ardal chwarae biniau sbwriel) – £580.80

Rhoddion
Dim

(a) Cyllid 2022/2023
Hyn i’w ddiweddaru yng nghyfarfod mis Medi.

(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
Arwyddwyd y rhain yn ystod y cyfarfod.

(c) Llofnod
Cytunwyd ychwanegu’r Cynghorydd B. Haworth fel llofnod. Roedd llofnodion hefyd yr oedd angen eu tynnu.

(d) Pecyn Cymorth Cyllid a Llywodraethu – Swyddfa Archwilio Cymru
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys dwy ran:-
Rhan 1: Y gwiriad iechyd
Mae’r gwiriad iechyd wedi’i gynllunio i’w gwblhau gan y clerc, gan weithio gyda’r cadeirydd neu grŵp bach o aelodau fel y bo’n briodol, i asesu a oes trefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol sylfaenol, polisïau ac ati yn eu lle, amlygu unrhyw gamau sydd angen eu cymryd, ac adrodd yn ôl i’r cyngor llawn neu bwyllgor dynodedig.

Rhan 2: Yr hunanasesiad
Bydd yr hunanasesiad yn galluogi cynghorwyr i ddefnyddio canfyddiadau Rhan 1, a mathau eraill o dystiolaeth sydd ar gael, i fyfyrio’n ddyfnach ar sut mae’r cyngor yn gweithredu, yn rheoli ei gyllid ac yn llywodraethu ei hun.

Copi o’r Pecyn Cymorth i’w anfon at bob aelod.

8. Cwestiynau’r Cyhoedd
Neb yn bresennol.

9. Busnes Brys

(xii) Torri lawr Coeden
Adroddwyd bod angen torri lawr Coeden oedd wedi pydru, y Clerc i gysylltu â Chyngor Sir Caerfyrddin am arweiniad.

10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cyfarfod nesaf i’w gynnal Nos Fercher 17eg Awst, 2022