Eglwys Llansadwrn

St Sadwrn Church

Mae croeso i bawb fynychu ein gwasanaethau. Gweler isod am yr amseroedd, y manylion cyswllt a gwybodaeth ddefnyddiol bellach.

Cynhelir gwasanaethau yn Llansadwrn am 11.00 gyda Chymun Bendigaid ar y dydd Sul cyntaf a’r trydydd dydd Sul yn y mis a Gweddi Foreol ar y pedwerydd dydd Sul bob mis. Ar y pumed dydd Sul, cynhelir gwasanaeth y Cymun ar y cyd â’r eglwysi eraill yn y plwyf am 10.00 ac fe’i dilynir gan goffi a bisgedi.

Menter Y Festri!

Fe fydd festri Eglwys Llansadwrn ar agor ar Ddydd Mawrth yn y prynhawn rhwng 2.00 – 4.00 o’r 6ed Mai ymlaen. Y syniad yw i ddarparu’r cyfle lle gall pobl Llansadwrn gwrdd â’i gilydd yn anffurfiol, yn arbennig newydd ddyfodiaid sy ddim wedi cael y cyfle i gwrdd â phobl leol eto.

Bydd dysgliad o de neu goffi ar gael. Hefyd, fe fydd planhigion a llyfrau clawr papur i’w cyfnewid neu rannu, a lle diogel i blant bach chwarae.

Galwch mewn nawr ac yn y man, hyd yn oed am amser byr – byddwn ni’n gwerthfawrogi’ch presenoldeb yn fawr. Ac os oes gyda chi syniadau sut gall y fenter hon ddatblygu ymhellach, byddai croeso i chi ddod a’u rhannu nhw hefyd.

Llansadwrn Vestry Venture

Llansadwrn Vestry Venture

 

Ychydig o hanes Eglwys Llansadwrn

Roedd Sant Sadwrn yn feudwy a chredir ei fod wedi cael ei gladdu ger Northampton. Credir y daeth yn ddylanwadol mewn gwleidyddiaeth Gymreig, yn cynnwys o fewn yr ardal hon yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin. Mae’r ffaith fod yr eglwys wedi’i chysegru iddo yn awgrymu ei bod wedi’i sefydlu cyn cyfnod y Normaniaid. Gyda Llanwrda, daeth Llansadwrn yn rhan o fywoliaeth Abaty Talyllychau yn 1176. Mae corff yr eglwys a’r porth yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ac mae’r eil yn dyddio o ddiwedd y bymthegfed ganrif. Ni chafodd ei chydnabod fel eglwys blwyf tan 1539.

Mae to’r capel deheuol a’r porth yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg. Yn 1672 nodwyd bod angen trwsio’r to ond ni chafodd ei drwsio tan 1705. Cyn cael ei adnewyddu roedd pared yn gwahanu’r transcept deheuol a’r capel. Ar y pryd roedd corau bocs yng nghorff yr eglwys a’r transcept. Roedd oriel hefyd ar ochr orllewinol corff yr eglwys. Mae un o’r cylchau yn ddyddiedig 1730. Mae’r walydd yn dyddio o’r cyfnod canol gyda rhai ychwanegiadau yn hwyrach ond nid oes unrhyw ddyddiau penodol ar gael.

Cafodd yr eglwys ei hadnewyddu yn 1883 – 1885 gan John Middleton a’i fab. Credir bod y rhan fwyaf o’r ffenestri wedi’u hadnewyddu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd yr eglwys ei chofrestru fel adeilad Gradd B yn 1966 ac yna yn un Gradd 2. Fe’i hadnewyddwyd yn 2005-6, drwy arian o Gronfa Treftadaeth y Loteri yn bennaf. Roedd y gwaith wedi cynnwys adfer y ffenestr ddeheuol. Mae lluniau yn amlinellu’r gwaith a wnaed mewn albwm ger y prif ddrws. Mae’r eglwys ar agor yn ystod y dydd – croeso cynnwys i bawb.

Llansadwrn-Church-by-Pat-Rowlands