Mae Festri Eglwys Llansadwrn wedi bod yn agor ei drysau ar gyfer Menter y Festri ers 2014. Mae wedi dod yn fwyfwy poblogaidd dros y blynyddoedd ac mae’n ffordd dda i drigolion y pentref ddod at ei gilydd.
Yn aml, bydd cacennau cartref ar gael, wedi’u pobi gan yr hyfryd Liz a Jane sy’n rhedeg popeth yn wych. Mae te, coffi a diod ffrwythau ar gael hefyd.

Grŵp Menter y Festri yn mwynhau’r haul yn Llansadwrn
Mae cwpwrdd gemau llawn dop i ddiddanu’r ymwelwyr iau tra bod aelodau hŷn y pentref yn ymlacio ac yn sgwrsio. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg, mae croeso i chi ddod yma i ymarfer.
Ewch i’r adran ddigwyddiadau i weld manylion Menter y Festri. Mae’n digwydd ar brynhawn dydd Mawrth yn ystod y tymor fel arfer, rhwng 2pm a 4.45pm.