Chwefror 2022

CYNGOR CYMUNED LLANSADWRN COMMUNITY COUNCIL

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llansadwrn a gynhaliwyd yn yr Ystafell Ddarllen, Llansadwrn, Nos Fercher 2 Chwefror, 2022.

Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd C. Powell
Cynghorwyr: L. Jones, T. Evans, J. Evans, C. Eady, C Jones,
Cynghorydd Sir A. Davies

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd C. Hudson (trafodwyd a chytunwyd i dderbyn ei ymddiswyddiad)

2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion nad oeddent wedi’u cynnwys ar yr Agenda
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.

3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd T. Evans – Gardd Gymunedol Llansadwrn, Ystafell Ddarllen
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis

4. Materion yn codi o’r cofnodion:

4.2 Ystafell Ddarllen Llansadwrn
Roedd digwyddiadau yn parhau i gael eu cynnal yn yr Ystafell Ddarllen, mae’r sinema hefyd wedi ailddechrau.

Cyffordd Brownhill
Dim i’w Adrodd

8 (1) Maes Chwarae Llansadwrn
Roedd y Cynghorydd C. Eady wedi archwilio’r offer ac adroddodd fod rhai darnau o offer yn rhydlyd mewn rhai mannau, hefyd bod algâu yn bresennol ar rai o’r offer. Trafodwyd a chytunwyd i ofyn i Huw Gwyn Fencing, Ltd. lanhau’r offer yn ôl y gofyn.

Adroddwyd y byddai grŵp Festri Mentro yn dechrau cyfarfod unwaith eto, mae’r Maes Chwarae yn brysur iawn ac yn cael ei ddefnyddio’n dda. Diolchwyd i’r Cynghorydd C. Eady am ei gwaith.

8 (iii) Gwefan
Trafodwyd a chytunwyd i wahodd Lyndsey Maiden i fynychu ein cyfarfod nesaf a rhoi adroddiad wedi’i ddiweddaru.

8 (2) Materion Priffyrdd
Dim i’w adrodd am y tyllau, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymwybodol o’r broblem.

Cau priffyrdd
Adroddwyd am broblem cau rhai ffyrdd ac apeliwyd i sicrhau na fyddai holl ffyrdd y pentref yn cau ar yr un pryd. Nodwyd bod cau ffyrdd newydd wedi dod i law ac y byddai’r gwaith yn cael ei wneud ar ddydd Sul.

Coed wedi cwympo ar y Ffordd
Roedd y rhain bellach wedi’u clirio gan y tirfeddiannwr.

8 (a) Gardd Gymunedol Llansadwrn
Roedd y coed oedd wedi eu plannu bellach yn tyfu, roedd y clawdd wedi’i dorri. Byddai’r Cadeirydd yn anfon adroddiad a diweddariad unwaith y byddai’r Pwyllgor yn weithredol unwaith eto. Y Clerc i gysylltu â Llys Cennen ynglŷn â’r brydles.

8 (d) Goleuni ar gyfer y Cae Cymuned
Roedd cyfarfod wedi ei drefnu gyda Mr Arwel Price, Cyngor Sir Caerfyrddin, nos Fercher 9fed Chwefror. Roedd y Cynghorydd L. Jones eisoes wedi cytuno i fynychu’r cyfarfod safle.

Dodrefn Cae Cymuned
Hyn i’w drafod yn y cyfarfod ym mis Mai.

8 (e) Ciosg Ffôn Coch
Hyn i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.

Digwyddiadau’r dyfodol yn y Pentref
Oherwydd COVID-19 dros y ddwy flynedd ddiwethaf nid oedd llawer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal. Doedd dim cynlluniau ar gyfer Sioe eleni. Trafodwyd Jiwbilî’r Frenhines yn helaeth a chytunodd y Cynghorydd Clare Eady i drefnu’r digwyddiad gyda chefnogaeth y Cyngor Cymuned. O ran y Cinio Mawr mae’n bosibl bod angen Pwyllgor newydd ond eto ni fyddai hwn yn cael ei gynnal eleni eto oherwydd y cyfyngiadau a’r problemau gyda Covid.

5. Gohebiaeth
(a) Cyngor Sir Caerfyrddin – ymgynghoriad cynllunio PL/03303 – Trosi 2 ysgubor yn annedd breswyl – Ty Ebeneser, Llansadwrn.
(b) Cyngor Sir Caerfyrddin – HTC 45/40 Heddfryn – Hysbysiad Cau Ffordd. Bydd y cau arfaethedig hwn yn peryglu mynediad i HTC 45/40. Byddem yn mynnu bod camau’n cael eu cymryd i gadw’r fynedfa ac i sicrhau diogelwch unrhyw un sy’n dymuno defnyddio’r llwybr troed 45/40 dywededig. Gall hyn fod ar ffurf llwybr cerdded ag arwyddion addas, lleiafswm o 2 fetr o led.
(c) Comisiwn Pobl Hŷn Cymru – uchafbwyntiau
(ch) Bwletin ULlC
(d) Gwybodaeth am Gau Ffyrdd
(dd CSC – ymgynghoriad cyllideb
(e) Trethi annomestig Covid – cyllid
(f) Jiwbilî’r Frenhines, baneri, etc.
(ff) Posteri baw cŵn
Trafodwyd problemau baw cŵn yn helaeth ac roedd yn broblem fawr yn y pentref. Y Clerc i gysylltu â Michael Roberts, Cyngor Sir Caerfyrddin am gyngor. Fel y soniwyd yn gynharach, mae Festri Mentro yn ailddechrau ac mae’n bosibl y gallai’r plant ddylunio posteri ar gyfer yr Ardal Chwarae.
(g) Gwybodaeth am y comisiwn ffiniau
(h) LlCC – 50 o gyfleoedd prentisiaeth
(i) Llythyr diolch oddi wrth Eglwys Llansadwrn am y rhodd
(l) Adroddiad Archwilio Cymru

6. Adroddiadau

(a) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(i) Cyllideb flynyddol wedi’i chytuno byddai costau “band” tai yn codi 4.39% a fyddai’n golygu £1.15 ar gartref Band ‘D’.
(ii) Angen 11.3 miliwn o bunnoedd o arbedion
(iii) Nodyn i’ch atgoffa y dylid annog pobl ifanc 16 oed i bleidleisio yn etholiadau mis Mai.

(b) Adroddiad gan Cornwallis Liaison
Yn absennol o’r cyfarfod.

8. Materion Ariannol

Taliadau
YNH (enw parth) – £12.00

Rhoddion
Cadeirydd CSC – Apêl Cynghorydd E. Williams – Ambiwlans Awyr – £50.00
Cylch Blaenau Tywi Urdd – £30.00

(a) Arwyddo adroddiadau incwm a gwariant chwarterol/Datganiadau Banc
Arwyddodd y Cynghorydd C. Jones gyfriflenni banc ac adroddiad ariannol.

(b) Cyllid – 2022/2023
Hyn i’w ddiweddaru yng nghyfarfod mis Medi.

8. Unrhyw fusnes arall
Atgoffodd y Clerc pawb y gallent gael ffurflenni enwebu ar gyfer Etholiad Mai ar-lein, os oedd problem bydd copïau caled ar gael.

9. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf Nos Fercher 2 Mawrth, 2022. (Ymddiheurodd y Cynghorydd L. Jones).