Cofnodion Ionawr 2022

CYNGOR CYMUNED LLANSADWRN

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llansadwrn a gynhaliwyd trwy MS Teams nos Fercher 5ed Ionawr, 2022

Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd C. Powell
Cynghorwyr: C. Jones, T. Evans
Cynghorydd Sir A. Davies

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a dymunodd Flwyddyn Newydd Dda i bawb.

1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd C. Eady, Cynghorydd L. Jones, Cynghorydd L. Rowlands, Cynghorydd J. Evans

2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion nad oeddent wedi’u cynnwys ar yr Agenda
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.

3. Datgan diddordeb
Cynghorydd T. Evans – Gardd Gymunedol Llansadwrn, Ystafell Ddarllen
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis

4. Materion yn codi o’r cofnodion:

4.2 Ystafell Ddarllen Llansadwrn
Dim i’w adrodd.

Cyffordd Brownhill
Dim i’w adrodd.

8 (1) Maes Chwarae Llansadwrn
Dim i’w adrodd.

8 (iii) Gwefan
Dim i’w adrodd.

8 (2) Materion Priffyrdd
Roedd y Cynghorydd Sir wedi ail cysylltu gyda Cyngor Sir Caerfyrddin am y tyllau yn yr ardal. Yn anffodus roedd mwy wedi ymddangos, roedd yr heol yn ddarn gwael

Cau priffyrdd
Cafwyd trafodaeth ynglŷn â nifer y ffyrdd y gofynnwyd amdanynt i gau yn yr ardal, a rhai ohonynt yn digwydd ar yr un pryd gan Open Reach, cwmnïau cyfleusterau cyhoeddus, ayb. Roedd y Bws Ysgol, Bysiau Gwasanaeth, trafnidiaeth breifat, ac ati wedi bod yn methu cyrraedd pentref Llansadwrn. Cadarnhaodd y Cynghorwr Sir ei bod hi’n gyfreithlon cau ffordd am 20 munud, rhaid cael ffordd haws o gyfleu’r wybodaeth yma i ysgolion, cludiant cyhoeddus ayyb. Gofynnwyd i’r Clerc ysgrifennu at SWTRA a’r Adran Priffyrdd yn apelio i iddynt ystyried yn fanwl wrth gau Ffordd yn unigol er mwyn sicrhau bod gan bawb y wybodaeth ddiweddaraf. Hefyd, sicrhau bod o leiaf un o’r ffyrdd ar agor er mwyn cyrraedd y pentref.

Coed wedi cwympo ar hyd y Ffordd
Roedd coeden wedi chwythu i lawr yn ystod y tywydd garw diweddar erbyn y 30 m.y.a. Brownhill, roedd y boncyff coeden wedi’i glirio ond mae’r canghennau’n parhau ar y ffordd/man pasio. Y Clerc i gysylltu gyda Cyngor Sir Caerfyrddin.

8 (a) Gardd Gymunedol Llansadwrn
Ni chynhaliwyd unrhyw gyfarfodydd oherwydd cyfyngiadau COVID.

8 (d) Golau ar gyfer y Cae Cymuned
Nid oedd dyddiad cyfarfod safle wedi dod i law gan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Goleuadau LED newydd eu gosod
Cyfarfod safle i’w drefnu.

Dodrefn Cae Cymuned
Bydd hyn yn cael ei drafod yn ddiweddarach yn y flwyddyn, o bosibl ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

8 (e) Ciosg Ffôn Coch
Bydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf.

5. Gohebiaeth
(i) Gwaith ail-wynebu yn Brownhill
(ii) Western Power – Cronfa Tlodi Tanwydd
(iii) Loteri – cyllid Jiwbilî
(iv) Coetiroedd Cymunedol
(v) Ffurflen Addurniadau Tymhorol
(vi) Post covid – £50k i helpu adferiad
(vii) Cymunedau sy’n gysylltiedig â Sir Gaerfyrddin
(viii) Rheolwr diffibriliwr Un Llais Cymru
(ix) Grant gofalwyr di-dâl
(x) LlCC – Adroddiad ymgynghori cyngor cymuned
(xi) LlCC – Pŵer cymhwysedd – cymwysterau i Glercod
(xii) CSC – newyddion diweddaraf
Anfonwyd uchod trwy e-bost
Jiwbilî’r Frenhines
Cyfarfod Fforwm Sir Gaerfyrddin 26 Ionawr, 2022
Etholiad adroddiad drafft
(1) Cyngor Sir Caerfyrddin – ymgynghoriad cynllunio PL/03220 – annedd newydd – Maesrhiw, Llansadwrn
(2) Cyngor Sir Caerfyrddin – ymgynghoriad cynllunio PL/03224 – amrywio amod 2 – Tir y tu ôl i Heddfryn
Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau/materion ar ran y Cyngor Cymuned.

6. Adroddiadau

(a) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(1) Casglu gwastraff – oherwydd pwysau gwaith bydd unrhyw sbwriel na chaiff ei gasglu ar y diwrnod cywir, yn cael ei gasglu’r diwrnod canlynol,
(2) Rhif Llesiant Delta – 0300 333 2222
(3) Bydd unrhyw un sy’n dod â Choeden Nadolig i’w hailgylchu yn cael bag o Gompost Hud Merlin am ddim.

(b) Adroddiad Cyswllt Cornwallis Liaison
Yn absennol o’r cyfarfod.

7. Taliadau a Rhoddion

Taliadau
Colin Darman – £750.00
CThEM – £62.00
Cyflog y Clerc (yn cynnwys cyfieithiad £60.00, Tâl Postio £30.00, Ffôn/band eang £36.00, Inc Argraffydd £20.00)

Arian a dderbyniwyd
Derbyniwyd taliad praesept o £2,000.00 ym mis Rhagfyr.

Derbyniwyd taliad Fforddfraint flynyddol gan Western Power – £58.45.

Praesept
Roedd adroddiad ariannol a chyllideb wedi’i baratoi a chytunwyd y byddai’r praesept yn parhau ar £6,000.00. Cytunwyd i beidio â chynyddu’r praesept i dalu am ddodrefn y Cae Cymunedol, ond byddai’n cael ei drafod yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

(a) Llofnodi adroddiadau incwm a gwariant chwarterol/datganiadau banc
Y rhain i’w harwyddo yn y cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf.

(b) Cyllid – 2022/2023
Roedd adroddiad cyllideb eisoes wedi’i baratoi a byddai hyn yn cael ei drafod eto yng nghyfarfod mis Medi.

8. Unrhyw fusnes arall
Dim.

9. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar nos Fercher 2ail Chwefror, 2022