CYNGOR CYMUNED LLANSADWRN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llansadwrn a gynhaliwyd drwy MS Teams am 7.30 p.m. ar nos Fercher 2 Mawrth, 2022.
Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd C. Powell
Cynghorwyr: C. Jones, T. Evans, C. Eady, L. Rowlands
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd L. Jones, Cynghorydd J. Evans, Cynghorydd Sir A. Davies
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion nad oeddent wedi’u cynnwys ar y Agenda
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.
3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd T. Evans – Gardd Gymunedol Llansadwrn, Ystafell Ddarllen
Cynghorydd L. Rowlands – Cornwallis
4. Materion yn codi o’r cofnodion:
4.2 Ystafell Ddarllen Llansadwrn
Ni chynhaliwyd unrhyw gyfarfodydd yn ystod y mis diwethaf.
Cyffordd Brownhill
Dim i’w Adrodd
8 (1) Maes Chwarae Llansadwrn
Mr Michael Roberts, Adran yr Amgylchedd Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod mewn cysylltiad â’r tîm sydd yn gyfrifol am faterion baw cŵn yn yr ardal, mae’n siŵr bod ganddynt arwyddion cosb ‘Dim Baw Cŵn’ sydd yn cael eu gosod yn y mannau priodol.
8 (iii) Gwefan
Yn anffodus, roedd Lyndsey Maiden yn sâl ac nid oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, ond byddai’n mynychu cyfarfod mis Ebrill gyda diweddariad.
8 (2) Materion Priffyrdd
Roedd coeden wedi disgyn yn y clawdd ar y ffordd rhwng Waun Clyn Da a Carmel gan wneud y ffordd yn gul iawn ac yn anodd i draffig basio.
8 (a) Gardd Gymunedol Llansadwrn
Byddai cyfarfod yn cael ei gynnal yn fuan a fyddai’n cynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Roedd angen aelodau newydd i’r Pwyllgor. Yr oedd y clawdd gwaelod a’r clawdd wrth ymyl yr hen Ficerdy wedi eu tori.
8 (d) Golau ar gyfer y Cae Cymuned
Roedd y Clerc wedi e-bostio’r mis anghywir i Mr Arwel Price, byddai’r cyfarfod safle yn cael ei gynnal dydd Mercher 9fed Mawrth ac roedd y Cynghorydd Liza Jones wedi cytuno i fynychu’r cyfarfod safle.
Dodrefn Cae Cymuned
Hyn i’w drafod yn y cyfarfod ym mis Mai.
8 (e) Ciosg ffôn coch
Bydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf.
5. Gohebiaeth
(a) Ymgynghoriad Coetiroedd Coffaol yn Brownhill – Cyfoeth Naturiol Cymru
(b) Bwletin Un Llais Cymru
(c) Arolwg Ymgysylltu – rheoli cŵn
(ch) HTC – blaenoriaethu llwybrau troed
Anfonwyd uchod trwy e-bost
(d) Y Jiwbilî Fawr
(dd) Adroddiad Ariannol IRP
(e) Cylchlythyr y Comisiynydd Pobl Hŷn
(f) Adroddiad ar gyfarfodydd Aml-leoliad
(ff) Dŵr Cymru – Cynllun Adnoddau Dŵr – Drafft
6. Adroddiadau
(a) Adroddiad y Cynghorydd Sir
Yn absennol o’r cyfarfod.
(b) Adroddiad cyswllt Cornwallis
Ni chynhaliwyd unrhyw gyfarfodydd yn ddiweddar. Ail edrych ar y cynllun llifogydd ar gyfer yr ardal ac mae i fyny cyn belled â’r Neuadd Bentref. Efallai fod gan Tai Cymdeithasol ddiddordeb yn Cornwallis.
7. Materion ariannol
Taliadau
Dim anfonebau i’w talu.
Rhoddion
Pob cais ar gyfer elusennau cenedlaethol i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.
(a) Llofnodi adroddiad incwm a gwariant chwarterol/datganiadau banc
I’w arwyddo yng nghyfarfod mis Ebrill
(b) Cyllid – 2022/2023
I’w drafod yng nghyfarfod mis Medi.
8. Unrhyw fusnes arall
Atgoffodd y Clerc pawb y byddai’r Papurau Enwebiadau ar gael i’w llwytho i lawr ar-lein.
9. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cyfarfod nesaf i’w gynnal Nos Fercher 6ed Ebrill, 2022.