Cofnodion Tachwedd 2021

CYNGOR CYMUNED LLANSADWRN

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llansadwrn a gynhaliwyd yn yr Ystafell Ddarllen, Llansadwrn, Nos Fercher 3ydd Tachwedd, 2021

Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd C. Powell
Cynghorwyr: L. Jones, C. Jones, T. Evans, J. Evans, L. Rowlands, C. Eady
Cynghorydd Sir A. Davies

Croesawodd y cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chynhaliwyd cyfarfodydd yn ystod Medi a Hydref.

1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd C. Hudson

2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion nad oeddent wedi’u cynnwys ar yr Agenda
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.

3. Datganiad Diddordeb
Cynghorydd T. Evans – Gardd Gymuned Llansadwrn, Ystafell Ddarllen
Cynghorydd L. Rowlands – Ystafell Ddarllen, Cornwallis
Cynghorydd J. Evans – Cornwallis
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis

4. Materion yn codi o’r cofnodion:

4.2
Ystafell Ddarllen Llansadwrn
Roedd yr Ystafell Ddarllen wedi derbyn grant/cyfraniad o £4,500.00. Roedd pobl yn mynychu digwyddiadau yn yr Ystafell Ddarllen, a gobeithio bydd y sinema wedi ei sortio yn fuan. Derbyniwyd copi o’r cofnodion gan y Clerc.

Bydd hyfforddiant diffibriliwr yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Cyffordd Brownhill
Awgrymodd y Clerc tynnu hwn oddi ar yr Agenda, ond yn dilyn trafodaeth cytunwyd i’w adael ar yr Agenda.

8 (1) Cornel Chwarae Llansadwrn
Rhoddodd y Clerc copi o adroddiad yr archwiliad i’r Cynghorydd C. Eady, a oedd wedi cytuno i fod yn gyfrifol am archwilio’r offer chwarae.

8 (iii) Gwefan
Incwm blynyddol a dderbyniwyd o hysbysebu £180.00, tynnwyd y swm hwn o’r anfoneb flynyddol.

8 (2) Materion Priffyrdd
Roedd y ffordd ger Waun Clyn Da ychydig y tu allan i’r pentref yn parhau i fod â nifer o dyllau yn yr heol.
Cytunodd y Cynghorydd Sir i reportio’r mater.

8 (a) Gardd Gymunedol Llansadwrn
Nid oedd cyfarfod wedi ei gynnal hyd yn hyn.

8 (d) Golau ar gyfer y Cae Cymuned
Roedd y Cynghorydd L. Jones wedi cytuno i fynychu cyfarfod safle, y Clerc i drefnu cyfarfod safle mor hwyr â phosibl ar ddiwedd y dydd.

Goleuadau LED newydd eu gosod
Cyfarfod safle i’w drefnu.

Dodrefn Cae Cymunedol
Trafodwyd hyn yn helaeth a chytunwyd i’w drafod eto yn y cyfarfod nesaf a chynnwys y costau yn Adroddiad Cyllideb 2022/2023.

8 (e) Ciosg Ffôn
Derbyniwyd nifer o awgrymiadau ar gyfer defnyddio’r Ciosg Ffôn, rhoddwyd copïau i’r Clerc er mwyn i bawb gael copi o’r awgrymiadau a dderbyniwyd.

5. Gohebiaeth
(i) Cyngor Sir Caerfyrddin – ymgynghoriad cynllunio PL/02458 – Cwmynydd – ysgubor sengl unllawr.
(ii) Cyngor Sir Caerfyrddin – ymgynghoriad cynllunio PL/02575 – Bryn Dyfan – Datblygiad Un Blaned
(iii) Cyngor Sir Caerfyrddin – ymgynghoriad cynllunio PL/02279 – Pantyronen – 3 rhesi solar
(iv) Cyngor Sir Caerfyrddin – ymgynghoriad cynllunio PL/02265 – Y Bwthyn, Bryn Farm – estyniad deulawr
(v) Cyngor Sir Caerfyrddin – penderfyniad apêl Gellideg – caniatawyd.
Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau/materion ar gyfer yr uchod.
(vi) Anfonwyd y canlynol eisoes drwy e-bost:
Arolwg Etholiadol Sir Gaerfyrddin
Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin wedi’i ddiweddaru
Oergell Gymunedol
Adolygiad o gydnabyddiaeth ariannol i Gynghorwyr Cymuned
Bwletin Un Llais Cymru
Newyddion diweddaraf Cyngor Sir Caerfyrddin
Hyfforddiant Cod Ymddygiad
Asesiad Llesiant Sir Gaerfyrddin
Arolwg asesu Gorllewin Cymru
Mannau cyhoeddus rheoli cŵn – estyniad i ymgynghoriad
(vii) Rôl y Cynghorydd yn y gymdeithas heddiw
(viii) Cyfarfod Ardal Sir Gaerfyrddin
(ix) Adroddiad panel IRP
(x) Arolwg Ffermwyr a Pherchnogion Tir

6. Adroddiadau

(a) Adroddiad y Cynghorydd Sir
(i) Llwybr Beicio Dyffryn Tywi – cyllid wedi ei dderbyn
(ii) Prosiect Zero Sir Gâr

(b) Adroddiad Cyswllt Cornwallis
Nid oedd dim byd pendant wedi’i gytuno ond trafodwyd y canlynol:
Roedd Cymdeithasau Tai wedi dangos diddordeb yn y tŷ, roedd rhan o’r tir o amgylch yr ardal ar orlifdir, o bosib yn gwerthu peth o’r tir er mwyn buddsoddi mwy o arian yn y prosiect.

7. Taliadau a Rhoddion

Taliadau:
We Dig Media – £360.00
CThEM – £62.00
Cyflog y Clerc – £324.00
Torch Pabi – £25.00

Rhoddion
Eglwys Llansadwrn – £250.00
Capel Dewi – £100.00

(a) Llofnodi adroddiadau incwm a gwariant chwarterol/datganiadau banc
Y rhain i’w harwyddo a’u diweddaru yn y cyfarfod nesaf.

(b) Cyllideb 2022/2023
Roedd adroddiad cyllideb wedi’i baratoi a’i ddosbarthu.

Praesept
Bydd hyn yn cael ei drafod a’i gytuno yng nghyfarfod mis Ionawr.

Diweddariad archwilio
Hysbysiad i’w roi ar y wefan nad oedd Adroddiad Archwilio 2020/2021 wedi’i gwblhau gan y Swyddfa Archwilio.

8. Unrhyw fusnes arall
Dim.

9. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cyfarfod nesaf i’w gynnal Nos Fercher 5ed Ionawr, 2022.