CYNGOR CYMUNED LLANSADWRN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llansadwrn a gynhaliwyd trwy MS Teams nos Fercher 4ydd Hydref, 2023.
Croesawyd dau aelod newydd i’r cyfarfod, sef Winston Davies a Hugh Evans. Roedd copïau o’r Datganiad Derbyn Swydd eisoes wedi’u llofnodi.
Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd C. Powell
Cynghorwyr: T. Evans, C. Jones, L. Jones, L. Rowlands, W. Davies, H. Evans
Croesawodd y cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd Sir A. Davies, Cynghorydd J. Evans
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion nad oeddent wedi’u cynnwys ar yr Agenda
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod ar ôl cywiro’r canlynol:
Cofnodion 8 (5) Camau Cofeb Goffa – “roedd y grisiau wedi eu “hadfer” ac nid eu “dileu” fel y nodir yn y cofnodion.
3. Datganiadau o Ddiddordeb
Cynghorydd T. Evans – Ystafell Ddarllen Llansadwrn, Eglwys Llansadwrn
Cynghorydd L. Rowlands – Ystafell Ddarllen Llansadwrn, Cornwallis
4. Materion yn codi o’r cofnodion:
4.2 Ystafell Ddarllen Llansadwrn
Adroddodd y Cynghorydd T. Evans nad oedd Pwyllgor yr Ystafell Ddarllen wedi cyfarfod ond y byddai’n cyfarfod ymhen 10 diwrnod. Cytunwyd i godi’r gost o logi’r Ystafell Ddarllen i fusnesau i £50.00, byddai elusennau/mudiadau lleol yn talu’r gyfradd arferol. Byddai’r Cyfrifon yn bendant yn cael eu harwyddo a’u cytuno yn eu cyfarfod nesaf. Bydd yr Adran Iau yn mynd yn ei flaen, roedd y Clerc wedi anfon gwybodaeth ynglŷn â’r math yma o bwyllgor. Byddent yn cael eu gwahodd i fynychu ac anfon adroddiadau i Bwyllgor yr Ystafell Ddarllen. Gan gyfeirio at drafodaethau diweddar ynghylch “ymddiriedolwr gwarchod” a Deddf Ymddiriedolwyr Cyhoeddus 1906, gofynnwyd i’r Ystafell Ddarllen wneud eu hymholiadau eu hunain ynglŷn â’r rôl a’r cyfrifoldeb.
Cyffordd Brownhill
Dim i’w adrodd.
8 (1) Maes Chwarae Llansadwrn
Fel yr adroddwyd yn y cyfarfod blaenorol, yn aros am arolygiad gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
8 (iii) Gwefan
Dim i’w adrodd.
Materion Priffyrdd
Dim byd newydd i’w adrodd.
Ciosg Ffôn
Fel y cytunwyd yn flaenorol, trafodwyd cael dyfynbrisiau ar gyfer gwaith a wnaed ar y ciosg. Efallai y gellid ei ddefnyddio fel canolfan wybodaeth, gyda mapiau, ffotograffau, ayb. Cytunodd y Cynghorydd Lyn Rowlands i gael dyfynbrisiau, ac anfon copi o’r gwaith angenrheidiol at y Clerc. Gellid cynnwys costau a’u trafod pan gytunir ar y Gyllideb yn y cyfarfod nesaf.
5. Gohebiaeth
(1) Bwletin Un Llais Cymru
(2) Cylchlythyr y Swyddfa Archwilio
(3) Cylchlythyr ULlC
(4) Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru
(5) Cyflwyniad Hwb Cyngor Sir Caerfyrddin
(6) Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus
(7) Ffyrdd cyfyngiad 20 m.y.a. gorfodol ac eithriadau 30 m.y.a.
(8) ULlC – D Diwrnod Cofio 6 Mehefin, 2024 (i’w gynnwys ar yr Agenda)
(9) Hywel Dda – Digwyddiadau Comisiwn Bevan
(10) Dyddiadau hyfforddiant ULlC
Anogwyd pawb i gwblhau’r Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus
6. Adroddiadau
(a) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
Derbyniwyd ymddiheuriadau.
(b) Adroddiad gan Cornwallis Liaison
Adroddodd y Cynghorydd L. Rowlands fod Cyfarfod Cyhoeddus llwyddiannus iawn wedi ei gynnal ym mis Gorffennaf. Roedd problem llif arian ac ni dderbyniwyd unrhyw arian. Roedd arolwg llawn wedi’i gynnal a gwnaeth y Penseiri sylwadau ar ansawdd da’r trawstiau. Roedd y ffordd ymlaen yn gadarnhaol gyda’r posibilrwydd o dai fforddiadwy, fflatiau a hefyd fflatiau i’r anabl gyda phawb yn cael mynediad eu hunain. Roedd ffosffad yn broblem, ond fel y soniwyd yn gynharach roedd pawb yn gadarnhaol am y ffordd ymlaen.
7. Cyllid
Taliadau
Cyflog/treuliau/cyfieithiadau clerc – £566.30
CThEM – £122.00
Rhoddion
Rhoddwyd £300.00 yn flynyddol tuag at gynnal a chadw mynwent eglwys Llansadwrn.
Derbyniwyd ceisiadau am rodd fel a ganlyn:
Cangen yr Urdd Blaenau Tywi – trafodwyd hyn a chytunwyd i roi rhodd o £30.00
Urdd – swyddfa Caerfyrddin – trafodwyd hyn a chytunwyd i roi i Cylch Blaenau Tywi yn unig
Diweddariad archwilio
Nid oedd canlyniad yr adroddiad terfynol wedi ei dderbyn.
Treuliau IRP
Roedd pob ffurflen wedi’i llofnodi ac adroddiad wedi’i anfon i swyddfa’r IRP
(a) Llofnodi adroddiadau incwm a gwariant chwarterol/datganiadau banc
Byddai adroddiad wedi’i ddiweddaru yn cael ei anfon gyda’r cofnodion nesaf er mwyn trafod y gyllideb.
(b) Cyllid 2024/2025
Byddai adroddiad wedi’i ddiweddaru yn cael ei anfon gyda’r cofnodion nesaf er mwyn cynorthwyo i drafod y praesept ar gyfer 2024/2025.
8. Unrhyw fusnes arall
Torch Pabi
Roedd y Torch Pabi wedi’i harchebu a byddai’n cael ei rhoi i’r Cadeirydd cyn Sul y Cofio.
9. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir cyfarfod rhithwir nesaf nos Fercher 1af Tachwedd, 2023. Y Clerc i anfon dolen am 7.25 p.m.