Gorffennaf 2023

CYNGOR CYMUNED LLANSADWRN COMMUNITY COUNCIL

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llansadwrn a gynhaliwyd drwy MS Teams, Nos Fercher 5ed Gorffennaf, 2023 am 7.30 p.m.

Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd C. Powell
Cynghorwyr: L. Jones, C. Jones, T. Evans

Croesawodd y cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd J. Evans, Cynghorydd L. Rowlands, Cynghorydd Sir A. Davies

2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion nad oeddent wedi’u cynnwys ar yr Agenda
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.

3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd T. Evans – Ystafell Ddarllen Llansadwrn

4. Materion yn codi o’r cofnodion:

4.2 Ystafell Ddarllen Llansadwrn
Adroddodd y Cynghorydd T. Evans fod tri pherson newydd wedi ymuno â Phwyllgor yr Ystafell Ddarllen ac un person wedi ymddiswyddo. Anfonwyd y Cyfrifon at y Cyfrifydd a chwblhawyd y gwaith papur. Roedd y Clerc wedi derbyn hysbysiad gan y Comisiwn Elusennau y byddai angen y Cyfrifon erbyn diwedd mis Hydref fan bellaf. Roedd y Pwyllgor yn edrych ar ddatblygu adran iau, y pwyllgor i benderfynu ar y telerau ac amodau.

Trafodwyd y cyfansoddiad a rôl y Cynghorwyr Cymuned.

O ran y cabinet ffeilio a’r hen Fapiau, nid oedd lle yn yr Ystafell Ddarllen i gadw’r eitemau hyn, trafodwyd a chytunwyd i roi’r cabinet ffeilio i’r Cyngor Sir.

Cyffordd Brownhill
Dim i’w adrodd.

8 (1) Maes Chwarae Llansadwrn
Aros am arolygiad blynyddol.

8 (iii) Gwefan
Dim i’w adrodd.

Materion priffyrdd
Roedd tyllau yn y ffordd yn parhau i fod yn broblem.

8 (5) Grisiau’r Gofeb Goffa
Roedd rhywun/rhai pobl eisoes wedi dechrau tynnu’r sment oddi ar y cofeb.

8 (14) Adroddiad bioamrywiaeth
Roedd hwn yn cael ei baratoi gan y Clerc a chopïau’n cael eu hanfon at bawb cyn iddo gael ei roi ar y wefan.

Ciosg Ffôn
Dim i’w adrodd.

8 (3) Dodrefn Cae Cymunedol
Trafodwyd a chytunwyd y byddai hyn yn cael ei dynnu oddi ar yr Agenda.

5. Gohebiaeth
(i) Cyflwyniad i 20 m.y.a. (gwrthwynebiadau)
(ii) Gwaith ar Bont Llandeilo
(iii) Hywel Dda – Arolwg o Brofiad Gwasanaeth
(iv) Newyddion diweddaraf Cyngor Sir Caerfyrddin
(v) Cyfarfod Pwyllgor Ardal Cyngor Sir Caerfyrddin
(vi) Gwahoddiad (webinar) – paratoi ar gyfer 20 m.y.a.
(vii) ULlC – Rheolau Sefydlog Diwygiedig
(viii) Cadwch Gymru’n Daclus – pecynnau garddio am ddim
(ix) Arolwg Cysylltedd Cymru

6. Adroddiadau

(a) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
Yn absennol o’r cyfarfod

(b) Adroddiad gan Cornwallis Liaison
Yn absennol o’r cyfarfod

7. Cyllid

(a) Taliadau
Cyflog Clerc – £554.00 (yn cynnwys cyfieithiadau, band llydan, stampiau)
CThEM – £122.00
Bunting – £36.48

(b) Rhoddion
Sioe Llansadwrn – £400.00

Diweddariad archwilio
Ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth.

Treuliau IRP
Anfonwyd gwybodaeth at bawb.

(a) Llofnodi adroddiadau incwm a gwariant/datganiadau banc chwarterol
Y rhain i’w hanfon at y Cynghorydd C. Jones gyda’r cofnodion nesaf.

(b) Cyllideb – 2023/2024
I’w drafod.

8. Unrhyw fusnes arall

(a) Cae Cymunedol Torri gwair
Derbyniwyd cais wrth dorri gwair i beidio â thorri mor agos i’r clawdd, hefyd os gellir ei dorri dim ond pan fo angen er mwyn lleihau nifer y toriadau. Cytunodd y Cynghorydd L. Jones i gwrdd â Colin Darman ar y safle i drafod y ffin o amgylch y cae. Gan gyfeirio at leihau nifer y toriadau cytunwyd nad oedd hyn yn bosibl oherwydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar y cae.

(b) Rheolau Sefydlog
Roedd angen ychwanegu’r rheol ynghylch cynnal cyfarfodydd o bell at y Rheolau Sefydlog. Copïau o’r ychwanegiad i’w hanfon gyda’r cofnodion.

(c) Archif o waith papur
Mae gan y Clerc apwyntiad gyda’r Swyddfa Archifau, bydd copïau o’r cofnodion yn cael eu cadw yn y Swyddfa Archifau. Nid ydynt yn derbyn unrhyw waith papur cyfrifyddu gan mai dim ond am 6 blynedd ar ôl y dyddiad talu y mae angen cadw Anfonebau.

(d) Sioe Llansadwrn
Atgoffwyd pawb am Sioe Llansadwrn sydd i’w chynnal ar 2ail Medi. Y Clerc i drefnu i’r Cae Cymunedol gael ei dorri cyn y Sioe.

9. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod rhithwir nesaf ar 6ed Medi, 2023, y Clerc i anfon y ddolen am 7.25 p.m.