Gardd i Bawb
Sefydlwyd Gardd Gymunedol Llansadwrn ym mis Tachwedd 2018. Tra gallwn gymryd yn ganiataol weithiau ein bod ni’n cael ein hamgylchu gan diroedd glas, teimlodd nifer fawr o bobl yn ein cymuned bod angen am le cymunedol yn yr awyr agored er budd pawb.
Awgrymwyd yr hen ardd, oedd ar un adeg ar y cae cymuned, fel y safle.
Nod tymor hir y prosiect yw iddi fod yn nodwedd barhaol, sy’n dod â’r gymuned at ei gilydd, gan ddarparu cyfleoedd eang er mwyn ymlacio, garddio, ymarfer corff, a dysgu, gan obeithio byddai’n gwneud lles i bawb yn y pentre.
Rhagwelir y bydd i ddechrau yn ardal gynnal a chadw syml, â sied, meinciau, bylbiau i’w cynefino dan dair neu bedair coeden (efallai rhywiogaethau o goed ffrwythau lleol), tomenydd cynefin, ac efallai pwll.
Datblygir syniadau ymhellach er enghraifft, cerfluniau helyg, gwelâu uchel, blychau o gwmpas y pentre, gwneud bocsys ystlumod, teithiau cerdded dwyieithog, a lle i blant lleol ac oedolion ddysgu gyda’i gilydd.
Diddordeb mewn darganfod mwy?
Cyfansoddiad a Pholisïau’r Grŵp
Constitution Gardd Gymunedol Llansadwrn Community Garden – Dec 2018
Contact the Garden Committee
If you are interested please get in touch (any information you share will only be used to get in touch about the garden and associated projects)
Community Garden News / Newyddion Gardd Gymunedol
Gardd Gymunedol Llansadwrn Community Garden – Chwefror 2019
First planting Digwyddodd y gwaith cyntaf yn Ardd Gymunedol Llans














