CYNGOR CYMUNED LLANSADWRN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llansadwrn a gynhaliwyd yn yr Ystafell Ddarllen, Llansadwrn, Nos Fercher 3ydd Mai, 2023
Presennol
Cadeirydd: Cynghorydd C. Powell
Cynghorwyr: C. Jones, L. Jones, L. Rowlands
Cynghorydd Sir A. Davies
Diolchodd y cadeirydd newydd ei hethol i’r Cynghorydd Christine Jones am ei gwaith fel cadeirydd.
1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd T. Evans
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion nad oeddent wedi’u cynnwys ar y Rhaglen
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.
3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis
Cynghorydd L. Rowlands – Cornwallis, Ystafell Ddarllen Llansadwrn
4. Materion yn codi o’r cofnodion:
4.2 Ystafell Ddarllen Llansadwrn
Byddai’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael ei gynnal ym mis Mehefin. Derbyniwyd cadarnhad gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn dweud y byddent yn cael eu heithrio o’r Trethi ar gyfer 2023/2024.
Cyffordd Brownhill
Dim i’w adrodd.
8 (1) Maes Chwarae Llansadwrn
Fel yr adroddwyd yn flaenorol nid oedd y Lle Chwarae wedi cael ei archwilio, ond byddai Cynghorwyr unigol yn ymweld â’r Lle Chwarae. Adroddwyd bod nifer fawr o goed wedi eu plannu o amgylch y Lle Chwarae, y Clerc i gysylltu gyda Cyngor Sir Caerfyrddin ynglŷn â chaniatâd.
8 (iii) Gwefan
Roedd angen tri dyfynbris ac roedd y Clerc wedi cysylltu ag un cwmni am gyngor, yn dilyn trafodaeth cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu â Ms Lyndsay Maiden.
8 (5) Cofeb Llansadwrn
Roedd y Clerc wedi cysylltu â’r person sy’n delio ag Adeiladau Rhestredig a hefyd adran gynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin a derbyniwyd yr ateb canlynol:
Ymhellach i gyfathrebiad James isod, gallaf hefyd gadarnhau nad yw’r datblygiad arfaethedig yn elwa o hawliau datblygu a ganiateir a bydd hefyd angen Caniatâd Cynllunio Llawn ac felly fe’ch cynghorir i gyflwyno cais Caniatâd Adeilad Rhestredig a Llawn gyda’r ffurflen gais perthnasol ynghlwm. Angen ei gefnogi gan y Cynlluniau Presennol ac Arfaethedig, Cynllun Lleoliad, Cynllun Bloc a manylion atodol perthnasol.
Roedd copi o’r e-bost hwn wedi’i anfon ymlaen at bob aelod.
8 (12) Contract torri gwair Cae Cymuned
Roedd yr hysbysiad wedi’i roi yn Post Datum.
8 (12) Cyngor Sir Caerfyrddin – Adolygiad o Gynghorau Cymuned
Anfonwyd copïau o’r e-bost gan Gyngor Sir Caerfyrddin at bob aelod.
8 (14) Adroddiad Bioamrywiaeth
Yn cael ei paratoi.
8 (a) Gardd Gymunedol Llansadwrn
Cytunwyd i dynnu hwn oddi ar yr Agenda, ond byddai’n cael ei adfer ar ôl i’r Pwyllgor gynnal eu cyfarfod nesaf.
Ymgynghoriad Ciosg Ffôn Coch
I’w drafod yng nghyfarfod mis Medi.
8 (3) Dodrefn Cae Cymunedol
I’w drafod yng nghyfarfod mis Medi.
5. Gohebiaeth
(1) CSC – Peidiwch â thorri gwair ym mis Mai
(2) Newyddion diweddaraf CSC
(3) Hywel Dda – dyddiadau cyfarfodydd ychwanegol
(4) CSC – Gwasanaeth Cadeirlan Tyddewi
(5) Ymgynghoriad GEN Gwyrdd
(6) ULlC – Swyddog Cyfathrebu
(7) ULlC – roedd Rheolau Sefydlog newydd yn cael eu paratoi
6. Adroddiadau
(a) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(i) Ymgynghoriad CDLl – dyddiad cau bellach wedi mynd heibio
(ii) Hyfforddiant Cod Ymddygiad
(iii) Cyfarfod Eisteddfod Llanymddyfri wedi ei gynnal ar 9fed Mai
(iv) Y banc olaf i gau, Barclays, yn Llandeilo
(v) Roedd Parcio a Theithio o Nantyci i Glangwili yn dod i ben ar 16 Mehefin, 2023
(vi) Unrhyw un sydd heb dderbyn Bocs Ailgylchu Du i gysylltu â’r Cynghorydd Sir
7. Cyllid
(a) Taliadau
Pebyll Mawr – £900.00
H B Enoch ac Owen (TWE) – £56.10
Ymddiriedolaeth Ceffylau a Merlod Lluest – £50.00 (Lwfans y Cadeirydd)
(b) Rhoddion
Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau.
Archwiliad 2022/2023
Mae hwn wedi’i gwblhau a’i lofnodi gan yr archwilydd mewnol.
(a) Llofnodi adroddiadau incwm a gwariant chwarterol/datganiadau banc
Y rhain i’w harwyddo ddiwedd y chwarter nesaf.
(b) Cyllidebau – 2023/2024
Y gyllideb i’w diweddaru yng nghyfarfod mis Medi.
8. Unrhyw fusnes arall
8 (15) Hyfforddiant Cod Ymddygiad
Derbyniwyd dyddiadau hyfforddiant gan Gyngor Sir Caerfyrddin:
12/06/2023 – 2pm a 24/07/2023 – 6pm, neu sesiynau recordio yn mynd i fod ar gael i bob cyngor. Trafodwyd a chytunwyd i ofyn am gopi o’r sesiwn recordio.
9. Dyddiad y cyfarfod nesaf/lleoliad cyfarfodydd y dyfodol
Trafodwyd a chytunwyd y byddai pob cyfarfod yn y dyfodol yn cael ei gynnal trwy MS Teams. Dyddiad y cyfarfod nesaf yw nos Fercher 7 Mehefin, 2023.