Mae’r Ddarllenfa yng nghanol y pentref ac mae’n cael ei defnyddio gan amrywiaeth o grwpiau lleol. Mae ar gael i’w llogi am bris rhesymol – defnyddiwch y ffurflen isod i gysylltu â’r Ddarllenfa i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r Ddarllenfa ar agor bob bore Sadwrn i chi gael benthyg llyfrau a DVDs, cael dishgled a chlonc, prynu coffi/te/siocled Masnach Deg a chlywed beth sy’n digwydd yn y pentref. Mae Hyb Bwyd y Mynydd Du yn dosbarthu yma ar ddydd Sadwrn hefyd.
Y Ddarllenfa fywiog.

Llyfrgell y Ddarllenfa
Beth sy’n digwydd
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am logi’r Ddarllenfa
Wedi’i lleoli yng nghanol y pentref ger tafarn y Sextons, Y Cae Cymuned ac eglwys hynafol Llansadwrn, mae’r ystafell hon llawn cyfarpar addas ar gyfer unrhyw achlysur ac mae ar gael i’w llogi drwy gydol y flwyddyn.
Ar hyn o bryd mae’n cael ei defnyddio ar gyfer y canlynol:
- Cyfarfodydd – e.e. Y Cyngor Cymuned, Pwyllgor y Sioe ayyb.
- Sesiynau Hyfforddi – e.e. Nyddwyr a Gwehyddion, Yoga ayyb.
- Partïon Plant
- Mudiadau i bobl ifainc
- Dathliadau- Gwleddau Priodas, Penblwyddi
- Digwyddiadau codi arian – Ffeiriau Sborion, Gwerthiannau
- Partïon te a swperi
- Nodweddion
Gwres: stôr dwymwyr a gwresogyddion ar y wal
Cegin: Llestri, cyllyll a ffyrc, gwydrau, peiriant golchi llestri, gwresogydd platiau, rhewgell, meicro-dôn – popeth ar gyfer achlysuron arbennig.
Cyfleusterau
- Parcio
- Mynediad i gadeiriau olwyn
- Toiled hygyrch
- Mynediad fflat
Costau Llogi ar gyfer 2014
1-2 awr = £ 6.00
2-5 awr = £12.00
Drwy’r dydd = £20.00
Penwythnos hir: i’w drafod
Llogwch drwy Cliff Cowell – Y Sextons – Ffôn: 01550 777099
Y pentref sy’n berchen ar yr Ystafell Ddarllen. (Rhif Elusen Gofrestredig. 700666) gyda Thîm Rheoli o wirfoddolwyr.
