Author: WeDigJames

Diweddariad Cyngor Sir Gâr

Cronfa Ymateb Cymunedol COVID- 19 Sir Gar

Mae cronfa grant newydd wedi’i lansio i helpu sefydliadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin mewn ymateb i bandemig COVID19. Mae cronfa ymateb cymunedol COVID-19 Sir Gaerfyrddin yn gynllun ar y cyd a gefnogir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS), Cronfa fferm wynt Mynydd y Betws, LEADER, Cronfa’r Eglwys yng Nghymru, partneriaeth gofal Gorllewin Cymru a Llywodraeth Cymru.Gall sefydliadau cymwys wneud cais am uchafswm o £1000 er mwyn cefnogi mudiadau sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin i gynnal neu gynyddu gweithgareddau sy’n cefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ystod argyfwng coronafeirws (COVID-19).

I gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â  RDPSIRGAR@carmarthenshire.gov.uk

Holidadur Trydydd Sector

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn ymwybodol iawn o effaith pandemig COVID-19 ar y trydydd sector ar hyn o bryd ac maent am sicrhau bod anghenion a phryderon y sector yn cael eu clywed yn ystod y cyfnod anodd a digynsail hwn.

Er mwyn asesu’r sefyllfa, rydym wedi creu holiadur ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector er mwyn gallu asesu’r effaith yn Sir Gaerfyrddin yn ogystal ag ar sefydliadau unigol.

Rydym yn annog pob sefydliad trydydd sector i lenwi’r holiadur a’i gyflwyno erbyn 10fed o Mehefin 2020.

Holidadur Trydydd Sector

£26 miliwn i helpu elusennau bach yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd miloedd o elusennau bach yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael grant cymorth busnes gwerth £10,000 i’w helpu i ymateb i heriau ariannol COVID- 19.

Bydd y pecyn newydd hwn yn cefnogi eiddo sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu is. Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n gweinyddu’r cynllun hwn.

Bydd manylion pellach ar sut i wneud cais ar gael yn fuan.

Cyllid Cymunedol

Mae cyllid newydd ar gael i roi cymorth i amrywiaeth eang o sefydliadau y mae’r Coronafeirws wedi effeithio arnynt.

Mae amrywiol grantiau wedi cael eu cyhoeddi i helpu elusennau, sefydliadau a grwpiau cymunedol i barhau i ddarparu gwasanaethau mawr eu hangen a rhoi cymorth i gymunedau.

Bydd prosiectau y mae’r Coronafeirws wedi cael yr effaith fwyaf arnynt ac sy’n cefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn gallu elwa o gymorth ariannol. Mae’r pecynnau cyllid yn rhychwantu’r sectorau cymunedol, elusennol, treftadaeth, addysg, yr amgylchedd, chwaraeon a’r celfyddydau.

Mwy o wybodaeth

Cyfeirlyfr cymunedol

Ledled Sir Gaerfyrddin, mae cymunedau a busnesau wedi dod ynghyd i helpu lle bynnag y gallant gynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol.

Os ydych yn cydlynnu cefnogaeth cymunedol ac am ychwanegu manylion am eich grŵp, anfonwch e-bost i covid19community@sirgar.gov.uk gydag enw eich grŵp, disgrifiad byr o’r hyn rydych yn ei wneud, sut y gall pobl gysylltu â chi e.e. Facebook/ dolen i’r wefan, e-bost a/neu rif ffôn a’r ardal rydych chi’n gweithio ynddi.

Cyfeirlyfr cymunedol

Gwirfoddoli

Ledled Sir Gaerfyrddin, mae cymunedau a busnesau wedi dod ynghyd i helpu lle bynnag y gallant gynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol.

Os ydych chi’n chwilio am wirfoddolwyr, cysylltwch â CAVS: volunteering@CAVS.org.uk neu ffoniwch 01267 245555.

Mwy o wybodaeth