CYNGOR CYMUNED LLANSADWRN
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llansadwrn a gynhaliwyd yn yr Ystafell Ddarllen, Llansadwrn, Nos Fercher 5ed Hydref, 2022.
Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd C. Jones
Cynghorwyr: T. Evans, L. Jones, L. Rowlands
1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd Sir A, Davies, Cynghorydd C. Eady, Cynghorydd J. Evans
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion nad oeddent ar yr Agenda
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.
3. Datganiadau o Ddiddordeb
Cynghorydd T. Evans – Ystafell Ddarllen, Gardd Gymunedol Llansadwrn
Cynghorydd L. Rowlands – Cornwallis
4. Materion yn codi o’r cofnodion:
4.2 Ystafell Ddarllen
Ni chynhaliwyd unrhyw gyfarfodydd
Cyffordd Brownhill
Roedd y Clerc wedi cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r Coetir Coffa yn Brownhill, cadarnhawyd y byddent yn gwneud rhai newidiadau ond ni allent ddweud ar hyn o bryd pa waith yn union fyddai’n cael ei wneud. Roedd y Cynghorydd Sir wedi cysylltu gyda SWTRA ynghylch cyfarfod ar y cyd a chadarnhawyd y byddent yn trefnu dyddiad cyfleus yn fuan. Roedd y Clerc hefyd wedi cysylltu â Chyngor Sir Caerfyrddin ynglŷn â’r gwaith, a fyddai o bosib yn cynnwys tynnu’r gwrychoedd, ayb. a chadarnhawyd ganddynt y gallai bioamrywiaeth fod yn broblem.
8 (1) Maes Chwarae Llansadwrn
Yn dilyn yr adroddiad archwilio a dderbyniwyd gan Sutcliffe cytunwyd i ofyn iddynt fwrw ymlaen â’r gwaith ond ni fyddai angen unrhyw waith i’w wneud i’r giât ar hyn o bryd. Byddai hyn yn cael ei drafod a’i gytuno wrth benderfynu ar swm y praesept. Cytunodd y Cynghorydd L. Rowlands i ymweld â’r Lle Chwarae i wirio a oedd y gwaith wedi’i wneud.
8 (iii) Gwefan
Cytunodd Lyndsey Maiden i fynychu’r cyfarfod nesaf.
8 (2) Materion priffyrdd
Cytunwyd i ddileu hyn oddi ar yr Agenda.
Llwybrau Cyhoeddus
Cytunwyd i barhau gyda’n hymholiadau ynglŷn â thaflen bosibl yn rhoi gwybodaeth am lwybrau troed yr ardal. Cynghorydd L. Jones i alw gyda Postdatum, y Clerc i holi Ms Lisa Dennison
8 (a) Gardd Gymunedol Llansadwrn
Byddai cyfarfod yn cael ei drefnu yn y dyfodol.
Ciosg Ffôn Coch
Roedd y Cynghorydd L. Rowlands yn parhau i gael tri dyfynbris ar gyfer y gost o glirio’r ciosg.
8 (4) Dodrefn Maes Cymuned
Y Clerc i ofyn i Colin Darman ‘rholio’ y Cae Cymuned yn ôl yr angen.
8 (4) Cyfethol un aelod
Roedd hysbysiad pellach wedi’i roi yn Post Datum.
5. Gohebiaeth
(1) Rheoli Mannau Gwyrdd
(2) Arolwg LGP – Cynghorau Tref a Chymuned
(3) Adroddiad Hywel Dda (A yw eich plentyn wedi bod i’r ysbyty)
(4) Un Llais Cymru – Hyfforddiant Cyngor
(5) Cerddwyr – dyfodol ein Llwybrau
(6) Ymgynghoriad tecach ar y Dreth Gyngor
(7) Cyfarwyddyd i alaru
(8) Gwahoddiad i Eglwys Gadeiriol Tyddewi
(9) Grant Cadwch Gymru’n Daclus
(10) Eglwys Llansadwrn – diolch am y rhodd
(11) Y Lloffwr – diolch am y rhodd
6. Adroddiadau
(a) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
Yn absennol o’r cyfarfod.
(b) Adroddiad Cyswllt Cornwallis
Nid oedd unrhyw newyddion i’w adrodd, gan barhau i weithio gyda’r Elusen Dreftadaeth gyda’r Tŷ yn adeilad rhestredig. Roedd gwaith yn cael ei ganolbwyntio ar Tŷ’r Ysgol.
7. Cyllid
Taliadau
Cyflog Clerc – £530.00 (yn cynnwys 2 gyfieithiad, £30.00 stamp, £36.00 band llydan/ffôn)
CThEM – £116.00
We Dig Media – £540.00
Cyfleusterau Chwaraeon Tregib – £200.00
Rhoddion
Derbyniwyd nifer o geisiadau am roddion, trafodwyd pob un a chytunwyd i’w rhoi i elusennau/cymdeithasau lleol yn unig.
Diweddariad Archwiliad Llawn
Dim i’w adrodd.
(a) Llofnodi adroddiadau incwm a gwariant chwarterol/datganiadau banc
Dosbarthwyd copïau o’r incwm chwarterol hyd at ddiwedd Gorffennaf. Byddai diweddariad pellach ar gael yng nghyfarfod mis Tachwedd.
(b) Cyllideb – 2022/2023
Hyn i’w drafod yng nghyfarfod mis Tachwedd er mwyn cytuno ar y praesept.
(c) Pecyn Cymorth Cyllid a Llywodraethu
Anfonwyd copïau at bawb.
(d) Templed Hyfforddiant
Copïau wedi’u hanfon at bawb, i’w trafod yng nghyfarfod mis Ionawr.
8. Unrhyw fusnes arall
Dim.
9. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cyfarfod nesaf i’w gynnal Nos Fercher 2 Tachwedd, 2022.