Sinema Gymunedol Llansadwrn yn dangos ffilmiau o safon ar ddydd Gwener olaf y mis (fel arfer). Ewch i’r adran ddigwyddiadau i weld y wybodaeth ddiweddaraf.
Rydyn ni o ddifri am ddiddanwch yn Llansadwrn, ac mae cyfle i bawb ymuno yn yr hwyl yn nosweithiau ein clwb sinema bywiog. Er taw Sinema Sadwrn yw’r enw, mae’r dangosiadau ar nos Wener fel arfer.
Mae SINEMA SADWRN yn sinema gymunedol gyfeillgar sy’n dangos ffilm bob mis ar nos Wener ynghyd a dangosiadau achlysurol i deuluoedd. Rydym ni’n dangos clasuron, comed’fau, dramau, ffilmiau tramor, ffilmiau wedi’u hanimeiddio a ffilmiau dogfen.
Rydym ni’n cynnal dangosiadau yn Narllenfa Llansadwrn fel arfer, neu’r Sexton Arms am ambell noson arbennig. Mae’r drysau’n agor am 7pm fel arfer a’r ffilmiau’n dechrau am 7.15pm. Mae tocynnau’n costio £5. Mae gennym ni sgrin fawr a system sain dda, toiledau a mynediad i bobl anabl. Mae ein nosweithiau sinema yn gyfeillgar iawn ac mae’r tafarn drws nesaf am beint a sgwrs cyn neu ar 61 y ffilm!
COVID-19 Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar hyn o bryd, telly gallwch chi droi fyny ar y noson. Os bydd newid i’r drefn hon dros y misoedd nesaf, bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar Facebook. Diolch am eich cydweithrediad.

Owen dressed up for Sinema Sadwrn’s Death of Stalin – we take it very seriously
Latest showings
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth
