{"id":8012,"date":"2026-01-30T15:30:35","date_gmt":"2026-01-30T15:30:35","guid":{"rendered":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/?p=8012"},"modified":"2026-01-30T15:30:35","modified_gmt":"2026-01-30T15:30:35","slug":"cynefin-llansadwrn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/reading-room-cy\/cynefin-llansadwrn\/","title":{"rendered":"Cynefin Llansadwrn"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn ddiweddar, mae gr\u0175p bach o bentrefwyr yn Llansadwrn, wedi neud cais am grant Perthyn&nbsp; grant ai ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd yn darparu cefnogaeth cyfnod cynnar lleol i gymunedau Cymreig yng ngogledd a gorllewin Cymru sydd \u00e2 diddordeb mewn datblygu syniadau menter gymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r grwp wedi bod yn llwyddiannus, ac wedi derbyn grant i wneud gwaith ymchwil dwys yn ardal Llansadwrn a&#8217;i chyffiniau, yn gofyn cwestiynau fydd yn crynhoi gweledigaeth pentrefwyr lleol am faterion iaith, diwylliant, amgylchedd, ynni, trafnidiaeth ac asedau lleol\u00a0 &#8211; yr holl bethau sydd yn gwneud yr ardal yn ddymunol, neu&#8217;n annymunol i fyw ynddi. <\/p>\n\n\n\n<p>Mi fydd y prosiect hefyd yn gofyn am syniadau a gweledigaethau pobol leol am ba fath o bethau hoffent ei weld yn cael ei ddatblygu yn yr ardal, dan arweiniad a pherchnogaeth menter gymdeithasol a chymunedol. Bydd y wybodaeth yma yn caniat\u00e1u i\u2019r pentref amlygu prosiectau posib er budd cynaliadwyedd ein cymuned.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Gymraeg yn ganolog i delerau&#8217;r grant, ac felly i&#8217;r gwaith ymchwil yma hefyd. Bydd y grant hefyd yn gallu ariannu&#8217;r gymuned i edrych ar ddatblygu endid cymunedol newydd&nbsp; (fel CIC neu CBS), all ddatblygu rhai o&#8217;r syniadau bydd yn deillio o&#8217;r gwaith ymchwil a&#8217;r ymgynghoriad cymunedol.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y grant yn cael ei gadw a&#8217;i ddosbarthu trwy fenter Cwmpas, ac mae yna dwy grwp ymgynghori yn datblygu&#8217;r gwaith ymchwil, sef Pobol Tir M\u00f4r ac Iaith.Cyf &#8211; y ddau yn brofiadol iawn yn cynnal gwaith ymchwil o&#8217;r fath ar draws cymunedau de-orllewin Cymru. <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr ymgynghoriad yn debygol o ddechrau diwedd Chwefror\/dechrau Mawrth, gydag adroddiad cynhwysfawr wedi ei greu erbyn diwedd mis Mawrth\/dechrau mis Ebrill.<strong>\u00a0<\/strong>Bydd yr adroddiad wnaiff grynhoi eich lleisiau chi yn caniat\u00e1u i ni allu wedyn ceisio am grantiau mwy i weithredu rhai o&#8217;r syniadau cymunedol sy&#8217;n deillio o&#8217;r ymchwil.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Os ydych chi yn byw a bod yn ardal Llansadwrn a\u2019i chyffiniau &#8211; rydym am glywed eich syniadau a theimladau chi am fyw yn y gymuned hon!\u00a0<\/strong>Mi fydd yna amrywiaeth o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan ac ymroi syniadau i\u2019r ymchwil hon, gan gynnwys diwrnod agored cymunedol yn Chwefror\/Mawrth 2026. Bydd datblygiadau pellach yn cael ei hysbysebu trwy wefan Llansadwrn a&#8217;r dudalen Facebook cymunedol, Y Lloffwr, The Post.<\/p>\n\n\n\n<p>Croeso i unrhywun sydd \u00e2 diddordeb, eisiau ymuno \u00e2&#8217;r grwp llywio neu eisiau helpu neu gynnig unrhyw awgrymiadau neu syniadau, i gysylltu \u00e2&nbsp;Sioned&nbsp;Haf trwy e-bost (<a href=\"mailto:sionedhaf@hotmail.com\">sionedhaf@hotmail.com<\/a>) neu dros y ff\u00f4n: 07529901523<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar, mae gr\u0175p bach o bentrefwyr yn Llansadwrn, wedi neud cais am grant Perthyn&nbsp; grant ai ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd yn darparu cefnogaeth cyfnod cynnar lleol i gymunedau Cymreig yng ngogledd a gorllewin Cymru sydd \u00e2 diddordeb mewn datblygu syniadau menter gymdeithasol. Mae&#8217;r grwp wedi bod yn llwyddiannus, ac wedi derbyn grant i wneud gwaith ymchwil dwys yn ardal Llansadwrn a&#8217;i chyffiniau, yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/reading-room-cy\/cynefin-llansadwrn\/\" class=\"more-link\">Continue reading <span class=\"screen-reader-text\">Cynefin Llansadwrn<\/span> <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":6586,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[86,66,87,56],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8012"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8012"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8012\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8013,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8012\/revisions\/8013"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6586"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8012"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8012"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8012"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}