{"id":6143,"date":"2023-01-17T14:04:52","date_gmt":"2023-01-17T14:04:52","guid":{"rendered":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/?p=6143"},"modified":"2023-01-17T14:05:16","modified_gmt":"2023-01-17T14:05:16","slug":"y-coetir-coffa-yn-brownhill-y-wybodaeth-ddiweddaraf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/village-events-cy\/y-coetir-coffa-yn-brownhill-y-wybodaeth-ddiweddaraf\/","title":{"rendered":"Y coetir coffa yn Brownhill \u2013 Y Wybodaeth ddiweddaraf"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Y coetir coffa yn Brownhill \u2013 Y Wybodaeth ddiweddaraf<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn fy ngohebiaeth flaenorol ar 22 Mehefin, rwy\u2019n ysgrifennu i roi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynlluniau ar gyfer y coetir coffa yn Brownhill, yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.<\/p>\n\n\n\n<p>Diolch i chi am gymryd yr amser i rannu eich adborth gyda ni drwy ein hymgynghoriad cyhoeddus a\u2019r digwyddiadau galw heibio yn ystod ym mis Mawrth a mis Mehefin y llynedd. Roeddem yn falch o allu cysylltu \u00e2 chymaint o drigolion a chael y cyfle i wrando ar farn a phryderon pobl ar y cynigion ar gyfer y tir yn Brownhill.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l gwrando\u2019n ofalus ar yr adborth a gawsom, rydym yn falch o allu rhannu\u2019r dyluniadau ar gyfer y safle a rhoi gwybod i chi am y camau nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r safle bellach wedi&#8217;i rannu&#8217;n dri phrif faes, gyda phob un yn blaenoriaethu gwahanol amcanion. Bydd ardal gadwraeth fel bod cyfle i fywyd gwyllt ffynnu, ardal o goetir ar gyfer coffau sy&#8217;n gwbl hygyrch, ac ardal dyfu i ddarparu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd, a choed a natur.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi nodi crynodeb o\u2019n cynlluniau isod, gan amlinellu sut y byddwn yn cyflawni\u2019r amcanion ar gyfer pob maes, gan ystyried yr ymatebion a gawsom drwy ein hymgynghoriad:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ardal un \u2013 Ardal gadwraeth&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Prif amcanion&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ein prif amcan ar gyfer y man cadwraeth yw gwella pwyntiau mynediad er mwyn sicrhau bod y cyhoedd a physgotwyr lleol yn gallu cael mynediad diogel i\u2019r afon a chreu coetir glannau afon a choetir gwlyb er budd bioamrywiaeth a hyrwyddo gorlifdir actif iach.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut byddwn yn cyflawni hyn:&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ychydig iawn o ymyrraeth fydd angen ar gyfer ein cynlluniau cychwynnol ar gyfer y rhan hon o&#8217;r safle. Bydd yr ardal yn cael datblygu&#8217;n goetir glan yr afon ar gyfer hybu prosesau naturiol, fel sydd wedi bod yn wir ers deng mlynedd. Byddwn yn gwella mynediad cyhoeddus drwy adfer pont droed a sefydlu llwybr cerdded anffurfiol a fydd yn galluogi pobl a physgotwyr i gael mynediad diogel i lan yr afon a mwynhau\u2019r bywyd gwyllt. Bydd arwyddion yn cael eu gosod i roi gwybodaeth i bobl ar sut y gallan nhw ddefnyddio&#8217;r ardal yn ddiogel yn ogystal \u00e2 helpu i ofalu am yr ardal. Ymhen peth amser, byddwn hefyd yn archwilio cyfleoedd i wneud gwaith adfer ar y rhan o\u2019r afon sydd wedi\u2019i throi\u2019n fwy o gamlas, a hynny er mwyn ei niwtraleiddio a\u2019i gwella fel cynefin ar gyfer pysgod a thrychfilod.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir gweld manylion llawn gan gynnwys mapiau a lluniadau o&#8217;r ardal gadwraeth trwy ymweld \u00e2 safle\u2019r prosiect ar&nbsp;<em>Citizen Space<\/em>&nbsp;o\u2019r 19fed o Ionawr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ardal dau \u2013 Ardal y coetir<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Prif amcanion&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ein prif amcan ar gyfer ardal y coetir yw creu coetir llydanddail brodorol. Bydd hyn yn cynyddu amrywiaeth cynefinoedd ac yn darparu man gwyrdd y gall pobl ddod iddo i fyfyrio a chofio anwyliaid.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut byddwn yn cyflawni hyn:<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r coetir wedi&#8217;i ddylunio i wella nodweddion presennol y safle a byddwn yn cadw man agored sylweddol i ddarparu cynefin agored pwysig. Er mwyn sicrhau bod y coetir newydd yn gallu gwrthsefyll bygythiadau o bl\u00e2u a chlefydau a newid yn yr hinsawdd, byddwn yn plannu amrywiaeth eang o rywogaethau a llwyni, gan gynnwys Derw, Oestrwydd, Pisgwydd dail bach, Cyll ac Afalau surion.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn helpu i wella mynediad cyhoeddus a sicrhau diogelwch ymwelwyr i&#8217;r safle, bydd maes parcio yn cael ei adeiladu. Bydd mynedfeydd presennol i&#8217;r caeau yn cael eu huwchraddio, a gosodir pontydd troed bychan er mwyn creu teithiau cylchol o amgylch yr ardal.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd meinciau hefyd yn cael eu gosod ger y fynedfa a bydd&nbsp;coed ffrwythau a chnau yn cael eu plannu i greu nodwedd flodeuo yn y Gwanwyn a darparu ffrwythau i ymwelwyr a&#8217;r gymuned eu casglu. Rydyn ni hefyd wedi bod yn awyddus i gael enw priodol ar gyfer y coetir coffa. Gan fod y tir yn arfer bod yn rhan o Ystad Abermarlais a bod Afon Marlais yn ei groesi, caiff y coetir ei alw\u2019n \u2018Coedwig Abermarlais\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir gweld manylion llawn gan gynnwys mapiau a lluniadau o&#8217;r ardal gadwraeth trwy ymweld \u00e2 safle\u2019r prosiect ar&nbsp;<em>Citizen Space<\/em>&nbsp;o\u2019r 19fed o Ionawr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ardal tri \u2013 Yr Ardal dyfu&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Prif amcanion&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ein prif amcan ar gyfer yr Ardal dyfu oedd sefydlu partneriaeth i\u2019n galluogi i ddarparu cyfleoedd cynaliadwy i dyfu bwyd, coed a hybu natur a gwella ansawdd d\u0175r, iechyd y pridd ac amrywiaeth cynefinoedd a rhywogaethau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut byddwn yn cyflawni hyn:<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwnaethom gyflwyno nifer o ddewisiadau ar gyfer cynyddu gorchudd o goed ochr yn ochr \u00e2 pharhad chynhyrchu amaethyddol parhaus gan ofyn i&#8217;r ymgynghorai drafod rhinweddau\u2019r hyn yr hoffent fwyaf ei weld yn cymryd lle. Cafodd yr awgrym o barhad cynhyrchu amaethyddol ochr yn ochr \u00e2 mwy o orchudd coed dderbyniad da.<\/p>\n\n\n\n<p>Y cynllun ar gyfer yr ardal hon yw cynyddu&#8217;r gorchudd coed i tua 20%, byddwn yn gwneud hyn trwy ledu&#8217;r cloddiau presennol ac ailsefydlu gwrychoedd ar hyd ffiniau caeau hanesyddol sydd wedi&#8217;u colli. Byddwn hefyd yn plannu ar hyd ymyl y cae ger y coetir presennol ac yn sefydlu Clystyrau o goed yn y caeau a fydd yn y dyfodol yn creu cynefin o fath o borfa goed.&nbsp; Bydd y planhigion newydd yn cael ei ffensio i ganiat\u00e1u i bori barhau ar y rhan fwyaf o\u2019r tir, a bydd y tir yn cael ei reoli yn unol \u00e2 chyfarwyddiadau er budd bywyd gwyllt, iechyd y pridd, ac ansawdd d\u0175r.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y tymor hwy, byddwn yn ceisio sefydlu partneriaeth ar gyfer rheolaeth hirdymor o\u2019r ardal hon mewn cydweithrediad \u00e2 fferm neu ffermydd lleol. Bydd hyn yn cynnwys cyd-ddylunio&#8217;r ardal ymhellach gyda&#8217;r potensial ar gyfer mwy o blannu neu gnydau eraill ar gyfer y glaswelltir sydd wedi&#8217;i wella a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir gweld manylion llawn gan gynnwys mapiau a lluniadau o&#8217;r ardal gadwraeth trwy ymweld \u00e2 safle\u2019r prosiect ar&nbsp;<em>Citizen Space<\/em>&nbsp;o\u2019r 19fed o Ionawr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Camau nesaf&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Wrth greu coetir newydd, rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar weithio\u2019n agos gyda chymunedau lleol a rhanddeiliaid i roi\u2019r cyfle iddyn nhw fod yn rhan o\u2019r cynlluniau a rhannu eu syniadau gyda ni. Rydym yn awyddus i barhau \u00e2&#8217;r cysylltiad rhagweithiol hwn yn Brownhill wrth i&#8217;r safle ddatblygu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y dyfodol agos, byddwn yn creu cyfleoedd i wirfoddolwyr ein helpu i baratoi a phlannu coed ar y safle. Byddwn yn rhoi&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y dyddiadau a\u2019r amseroedd ar gyfer y rhain atoch maes o law.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y coetir coffa yn Brownhill \u2013 Y Wybodaeth ddiweddaraf Yn dilyn fy ngohebiaeth flaenorol ar 22 Mehefin, rwy\u2019n ysgrifennu i roi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynlluniau ar gyfer y coetir coffa yn Brownhill, yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin. Diolch i chi am gymryd yr amser i rannu eich adborth gyda ni drwy ein hymgynghoriad cyhoeddus a\u2019r digwyddiadau galw heibio yn ystod ym mis Mawrth &hellip; <a href=\"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/village-events-cy\/y-coetir-coffa-yn-brownhill-y-wybodaeth-ddiweddaraf\/\" class=\"more-link\">Continue reading <span class=\"screen-reader-text\">Y coetir coffa yn Brownhill \u2013 Y Wybodaeth ddiweddaraf<\/span> <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[68],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6143"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6143"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6143\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6144,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6143\/revisions\/6144"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6143"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6143"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llansadwrn.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6143"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}