Ailgylchu

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 03/01/2023
1:30 am - 11:00 am

Categories


Beth allaf ei roi yn fy mag glas?
Ie, i mewn â nhw…

Papur/Carden – Papur newydd/cylchgronau, catalogau, cyfeirlyfrau ffôn, post di-ofyn, papur ysgrifennu, papur wedi’i ddarnio, amlenni, cartonau bwyd a diod, bocsys grawnfwyd, bocsys cardbord, tiwbiau rholiau papur tŷ bach/papur cegin, bocsys wyau, cloriau prydau bwyd parod

Plastig – Poteli plastig, potiau iogwrt, tybiau margarîn, basgedi plastig/cynwysyddion prydau parod, cambrenni cotiau plastig, ffilm blastig

Metelau – Caniau bwyd a diod, erosolau, caeadau potiau jam, ffoil

Na, peidiwch â’u cynnwys…

Hancesi papur/papur cegin, cardbord wedi ei drochi â bwyd, sosbenni, metel sgrap, bagiau plastig, polystyren, papur wal, tuniau paent, dillad/esgidiau, gwydr, teganau, cambrenni cotiau pren, eitemau trydan, casetau fideo, cryno-ddisgiau/DVDs, gwastraff gardd, cewynnau/tyweli misglwyf, pecynnau/hambyrddau bwyd anifeiliaid anwes.