Adran 116 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru 2011
Cyngor Cymuned Llansadwrn Ward (os yn berthnasol)
RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod 3 sedd gwag am swydd Cynghorydd yn y Gymuned/Ward uchod, a bod y Cyngor Cymuned yn bwriadu cyfethol.
Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hơn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
(a) wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
(b) yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n
(c) denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod neu
(ch) wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.
Mae rhai pobl benodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedi y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar. Mae’r cyfrifoldeb yn eistedd gyda’r ymgeisydd i sicrhau eu bod yn gymwysedig i ymgeisio.
Llofnodwyd Joy Waters Dyddiwyd 18/05/2022 Clerc y Cyngor
Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd(i) gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â’r Swyddog Priodol, Clerc y Cyngor Cymuned joywaters@hotmail.co.uk
erbyn 9fed Mehefin, 2022